Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn, 35 oed, a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn ystod oriau mân bore dydd Sul ar yr A4119 wedi'i enwi fel Christopher Williams o Bentre.
Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:
“Roedd Chris yn dad ymroddedig ac yn fab, brawd, ewythr ac ŵyr y byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr.
“Ei dair merch ifanc, Phoebe, saith oed, ac Emillie ac Esme, y ddwy'n bedair oed, oedd y peth pwysicaf yn ei fywyd.
“Roedd Chris yn frwdfrydig dros gerddoriaeth ac roedd wedi chwarae mewn sawl band yn y gorffennol, roedd yn mwynhau caraoce ac roedd yn dysgu ei ferch Phoebe i chwarae'r gitâr.
“Roedd Chris wedi cefnogi Dinas Abertawe ar hyd ei oes.
“Mae wedi cael ei ddisgrifio fel rhywun a fyddai'n gwneud unrhyw beth dros unrhyw un heb ofyn am gydnabyddiaeth.
“Bydd Chris yn aros yn ein calonnau ac ni fyddwn byth yn ei anghofio. Nid oes unrhyw eiriau i ddisgrifio'r golled y mae ein teulu yn ei theimlo ac yn delio â hi ar hyn o bryd. Mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym yn llawer rhy gynnar.”
Mae swyddogion o Uned Ymchwiliadau Difrifol Heddlu De Cymru yn parhau â'u hymchwiliad i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr A4119 rhwng Coedelái a Thomastown, ychydig cyn 3am ddydd Sul 13 Chwefror.
Gall yr heddlu gadarnhau fod dyn 35 oed o ardal Caerdydd wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn. Mae bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion a oedd yng nghyffiniau'r A4119 rhwng 2am a 3am a hoffai siarad ag unrhyw un a all fod wedi gweld tacsi VW Jetta du yn cael ei yrru yn yr ardal.
Mae'r heddlu hefyd yn apelio am i unrhyw un sydd â deunydd fideo CCTV neu gamera dashfwrdd a all fod wedi recordio'r digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu digwyddiad 2200050568.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101