Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:01 15/08/2022
Bydd Heddlu De Cymru yn tynnu sylw at beryglon a chanlyniadau gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau drwy gefnogi ymgyrch genedlaethol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu o heddiw [Dydd Llun 15 Awst] tan Ddydd Sul 28 Awst 2022.
Bydd yr ymgyrch yn cynnwys patrolau amlwg iawn, gweithgareddau ymgysylltu ac wythnos weithredu o dargedu gyrrwyr peryglus ac amddiffyn defnyddwyr ffyrdd rhag niwed.
Ledled Cymru y llynedd, roedd 11.7% o'r holl brofion anadl ar ochr ffordd naill ai'n brawf positif, wedi methu darparu neu wedi'u gwrthod, gyda 57.2% o'r profion cyffuriau yr un peth.
Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol, yr Uwch Arolygydd Marc Lamerton:“Mae gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn hynod beryglus. Mae'n neges rydyn ni, fel swyddogion yr heddlu, yn ei rhannu o hyd ond yn anffodus, rydym yn parhau i weld damweiniau difrifol yn digwydd ac mae bywydau yn cael eu colli yn llawer rhy aml.
“Gall hyd yn oed yfed swm bach o alcohol effeithio eich gallu i yrru. Gall cyffuriau effeithio ar farn, golwg a gallu person i ganolbwyntio, sydd i gyd yn bethau hynod bwysig er mwyn gyrru, ac felly yn achosi i'r gyrrwr fod yn hynod beryglus ar y ffyrdd.
“Os ydych yn yfed alcohol neu'n cymryd cyffuriau anghyfreithlon/ar bresgripsiwn neu feddyginiaethau dros y cownter ac yna'n mynd y tu ôl i lyw y car, rydych yn peryglu eich bywyd chi, bywydau eich teithwyr ac eraill ar y ffyrdd. Mae gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn arwain at golli bywydau.”
Mae mynd i'r afael â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn ymrwymiad parhaus i Heddluoedd ledled y DU.
Dylid rhoi gwybod am unrhyw bryderon am unigolyn yn gyrru dan ddylanwad.
Gellir gwneud hyn drwy roi gwybod ar-lein, ffonio 101 neu 999 os yw'n argyfwng.
Fel arall, gellir rhoi gwybod yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu www.crimestoppers-uk.org