Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
![]() |
![]() |
Cafodd David Lewis, 49, o Gwmbwrla a Kyle Andrews, 31, o Gwmrhydyceirw, eu harestio ar ôl i swyddogion eu dynodi o ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin.
Darganfuwyd bod gan y ddau ddyn nifer o ffonau symudol a oedd yn hysbysebu gwerthu cyffuriau.
Cawsant eu herlyn ar ôl cael eu harestio ar Ionawr 27 am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A (crac cocên a heroin).
Plediodd y ddau ddyn yn euog i'r cyhuddiadau ac fe'u dedfrydwyd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener Gorffennaf 29 i bedair blynedd o garchar yr un.
Cafodd Lewis hefyd ei ddedfrydu am ddwy drosedd ar wahân o fod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a chael heroin yn ei feddiant, a bydd pob un ohonynt yn rhedeg ar yr un pryd.
Dim ond un enghraifft yw'r achos hwn o'r ffordd y mae ein Tîm Troseddau Cyfundrefnol yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot yn mynd i'r afael ag amheuaeth o werthu cyffuriau yn y gymuned. Gallwn, ac rydym yn gweithredu'n rheolaidd, ar y wybodaeth a ddarperir i ni gan y cyhoedd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â Heddlu De Cymru.
Rhowch wybod ar-lein yma.
Fel arall, gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.