Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi cael ei gydnabod am y ffordd y mae'n atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ymateb i'r cyhoedd ac yn ymchwilio i droseddau – ac mae'n croesawu’r cyfle i wella'r ffordd y mae'n diogelu pobl fregus rhag niwed.
Yn ei harolygiad o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a dilysrwydd yr heddlu yn 2021-2022, asesodd Cyfarwyddiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) berfformiad yr heddlu mewn wyth maes plismona.
Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, pennir bod Heddlu De Cymru:
Pennwyd ei bod yn perfformio’n ddigonol mewn perthynas ag ymgysylltu â'r cyhoedd â thegwch a pharch, rheoli troseddwyr ac unigolion dan amheuaeth, yn ogystal â datblygu, cefnogi a diogelu'r gweithlu.
Canfu'r arolygwyr fod angen i'r heddlu wella'r ffordd y mae'n diogelu pobl fregus.
Ymhlith y canfyddiadau eraill, nododd yr adroddiad mai Heddlu De Cymru sydd â'r gyfradd cyhuddo neu wysio uchaf ar gyfer troseddau rhywiol o blith y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr a'r drydedd gyfradd cyhuddo neu wysio orau ar gyfer troseddau sy'n seiliedig ar y dioddefwr.
Canfu hefyd fod yr heddlu'n hyrwyddo diwylliant moesegol a bod y staff yn teimlo'n hyderus ac yn cael eu cefnogi pe bai angen iddynt herio neu roi gwybod am ymddygiad amhroffesiynol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Canfu'r arolygwyr fod angen i ni wella'r ffordd rydym yn diogelu pobl agored i niwed, yn enwedig plant sy'n mynd ar goll ac sy'n wyneb risg y bydd rhywun yn cam-fanteisio arnynt. Maent hefyd wedi cydnabod y gwaith da y mae staff a swyddogion Heddlu De Cymru yn ei wneud i gadw pobl yn ddiogel, ymateb i'r rheini y mae arnynt ein hangen fwyaf ac ymchwilio'n effeithiol i droseddau.”
“Diogelu'r rhai bregus rhag niwed yw fy mhrif flaenoriaeth, ac rydym wedi buddsoddi yn y maes plismona cymhleth hwn, er mwyn sicrhau mwy o swyddogion arbenigol nag erioed yn gweithio i ddiogelu pobl fregus bob dydd. Rwy'n derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn llawn ac yn croesawu’r cyfle i wella.
“Rydym yn gweithio'n agosach ac yn fwy effeithiol gydag amrywiaeth o asiantaethau partner i nodi arwyddion cam-drin a cham-fanteisio rhywiol yn llawer cynharach, fel y gallwn gynnig ymyriadau i gefnogi dioddefwyr a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell.
“Rwy'n falch iawn o'n cyflawniadau ac yn awyddus i barhau i wella.
“Rydym wedi dangos ein hymrwymiad i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol ac atal rhywun rhag cam-fanteisio’n rhywiol arnynt, nawr ac yn y dyfodol, fel sefydliad ac fel aelod annatod o'r rhwydwaith ehangach o bartneriaid sy'n cadw pobl ifanc yn ddiogel.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Braf yw gweld bod canfyddiadau'r asesiad PEEL diweddaraf yn cydnabod gwaith caled a pherfformiad gwych swyddogion a staff Heddlu De Cymru wrth gadw pobl yn ddiogel a gostwng troseddu yn ein cymunedau. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi meysydd i'w gwella ac mae angen i bob un ohonom weithio'n ddiflino i fynd i'r afael â'r argymhellion hynny.
“Mae diogelu pobl fregus wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i mi ers y dechrau un, ac mae hynny wedi'i adlewyrchu yng Nghynllun Heddlu a Throseddu De Cymru, gan gydnabod bod anghenion unigolion agored i niwed yn aml yn gymhleth ac na all yr heddlu eu datrys ar ei ben ei hun.
“Mae fy arweinydd dros Ddioddefwyr a Bregusrwydd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr a phartneriaid ym maes plismona ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Mae buddsoddi mewn mentrau fel y Rhaglen Newid Bregusrwydd yn ein galluogi i wella cyfleoedd i ddysgu ac addasu mewn partneriaeth, gan ddylanwadu ar hyfforddiant a dealltwriaeth staff rheng flaen i fod yn fwy ystyriol o drawma, ond bydd hyn bob amser yn faes gwaith anodd a heriol.
“Mae'r cydberthnasau cryf rydym wedi'u meithrin â phartneriaid dros y blynyddoedd yma yn ne Cymru yn parhau i fod yn allweddol i’n llwyddiant. Rhaid i ni adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed gennym hyd yma, achub ar y cyfle a gynigir gan yr adroddiad hwn a manteisio ar yr her i wella ein gallu i ddiogelu plant a phobl ifanc cael eu cam-drin yn rhywiol ac atal rhywun rhag camfanteisio'n rhywiol arnynt.”