Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:36 27/08/2022
Mae Heddlu De Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol a Pride Cymru i hwyluso gorymdaith drwy ganol dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, 27 Awst.
Yn ystod y digwyddiad, bu'n rhaid i swyddogion fynd i'r afael â grŵp protestio bychan a ymgasglodd ar y llwybr i rwystro'r orymdaith.
Er mwyn sicrhau na fydd tarfu pellach ar y digwyddiad, gofynodd y swyddogion i'r grŵp symud i leoliad gwahanol gerllaw a gwnaethant gytuno i wneud hynny.
Esboniodd y swyddogion pam roedd rhaid iddynt symud, a darparu canllawiau ar brotestio'n gyfreithlon a chynnig hwyluso protest gyfreithlon.
Roedd y grŵp yn barod i gydweithredu a gwnaethant adael yr ardal yn fuan wedyn.
Yn groes i rai adroddiadau yn y cyfryngau cymdeithasol, cafodd neb ei arestio na'i symud â grym gan swyddogion.