Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:54 04/08/2022
Cafodd Luke Paterson, 18, ei ddedfrydu i naw mlynedd yn y carchar am ddau achos o ladrata drwy fygwth â chyllell yng Nghaerdydd.
Plediodd Paterson o Grangetown yn euog i'r ddau achos a ddigwyddodd yn y Rhath a Sblot y llynedd.
Yn South Park Street, noson Gŵyl San Steffan 2021, cafodd bachgen 17 oed ei fygwth y câi ei drywanu pe na byddai'n ildio ei feic modur.
Cymerwyd y beic a chafwyd hyd iddo'n ddiweddarach wedi'i ddifrodi.
Bum mis cyn hynny, ar 20 Gorffennaf, ymosodwyd ar ddyn 21 oed yn Clifton Street wrth iddo gerdded i dŷ ei gariad. Cafodd ei fygwth â chyllell er mwyn cael ei fag. Cafodd ei ysgwydd ei dynnu o'i le, a dioddefodd gryn gleisio i'w wyneb a'i lygad sy'n achosi poen iddo o hyd.
Ddydd Gwener 29 Gorffennaf yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd Paterson ei ddedfrydu i naw mlynedd mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Amanda Newman:
“Cafodd ymddygiad treisgar direswm Luke Paterson effaith ddifrifol ar y dioddefwyr a'r sawl a fu'n dyst iddo. Gobeithio bod y ddedfryd sylweddol hon yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw ac i'r gymuned ehangach.”
Mae ardal De Cymru yn lle diogel i fyw a gweithio ynddi ac i ymweld â hi, ond ni fyddwn byth yn llaesu dwylo. Mae mynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â chyllyll a thrais difrifol yn un o brif flaenoriaethau Heddlu De Cymru.
Rydym yn annog rhieni, gofalwyr ac athrawon i drafod peryglon cario cyllell â phobl ifanc.
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd codi'r mater os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn cario cyllell, ond drwy wneud hynny gallwch helpu i sicrhau na all yr arf gael ei defnyddio i achosi anaf difrifol, neu waeth.
Drwy ein hymgyrch #DdimYrUn, rydym yn anelu at addysgu pobl ifanc am beryglon cario cyllell drwy roi'r adnoddau sydd eu hangen ar rieni, athrawon a grwpiau cymunedol i wneud hynny.
I gael gwybod mwy ewch i https://www.nottheone.co.uk/cy/