Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi lansiad drafft Cynllun Gweithredu ar Hil yr Heddlu a ddatblygwyd gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) a'r Coleg Plismona ac yn annog aelodau ein cymunedau i gwblhau arolwg i helpu i lunio'r cynllun terfynol a sut i'w gyflwyno.
Mae'r drafft gynllun yn amlinellu cyfres o gynigion ar gyfer yr heddluoedd i fod yn sefydliadau gwrth-hiliol a gwella eu dealltwriaeth o gymunedau Du.
Nod y cynllun yw rhoi'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn i swyddogion yr heddlu feithrin ymddiriedaeth a hyder gyda chymunedau Du, fel eu bod yn fwy parod i herio hiliaeth ac i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw ragfarnau greddfol diwylliannol a all fod yn llwytho gwahaniaethu hiliol ym maes plismona.
Bydd yn creu diwylliant, meddylfryd, gwerthoedd, ac ymddygiad gwrth-hiliol ym maes plismona, a fydd yn llywio'r holl arferion plismona gweithredol, gan wella'r profiad a'r canlyniadau i bobl Ddu.
Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n bosibl i brofiad byw cymunedau, swyddogion a staff Du ddylanwadu'n uniongyrchol ar bolisïau'r heddlu a'u harferion yn y dyfodol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Nod y cynllun gweithredu yw mynd i'r afael â gwahaniaethu hiliol sy'n effeithio ar bobl ddu ym maes plismona a all fod mewn sawl ffurf ac i drawsnewid y diffyg ymddiriedaeth mewn plismona sydd wedi'i etifeddu.
“Mae cyfreithlondeb ac effeithiolrwydd plismona yng nghymunedau De Cymru yn seiliedig ar y berthynas rhwng yr heddlu a'r cyhoedd ac rwy'n derbyn bod yna heriau yn ein perthynas â phobl dduon. Dylid ein cymunedau i gyd allu ymddiried i'r eithaf ynom ond mae'r data yn dangos bod lefelau ymddiriedaeth a hyder gryn dipyn yn is ymysg rhai pobl ddu ac mae gwahaniaethu hiliol na allwn ei esbonio'n llawn yn bodoli. Ond rydym yn gweithio'n galed i'w ddeall a'i wella.
“Mae amlygrwydd hiliaeth yn ein cymdeithas yn anwrthwynebol ac mae'n rhaid i ni ddifa'r ymddygiad ffiaidd hiliol sydd gan rai pobl yn ein cymunedau.
“Yn Ne Cymru rydym wedi gwneud ymdrech gref i fynd i'r afael â rhai o'r materion hir sefydlog hyn. Er enghraifft, mae ein hymrwymiad i greu gweithlu cynrychioladol wedi bod ar waith am wyth mlynedd ar ffurf tîm ymroddedig yn cynnal gwaith recriwtio gweithredol cadarnhaol a hyrwyddo rhaglen datblygu arweinyddiaeth sy'n agored i bob aelod o staff ethnig leiafrifol. Mae wedi bod yn her ond rydym yn gweithio'n galed i gynyddu'r nifer o bobl ddu ac ethnig leiafrifol yr ydym yn croesawu drwy ein drysau.
“O ran defnyddio pwerau'r heddlu, mae'r gwaith rydym wedi ei wneud yn cael effaith gadarnhaol yn barod ar ein cyfraddau anghymesurol ond mae'n ffaith bod y defnydd o Stopio a Chwilio yn cael effaith anghyfartal ar aelodau o'r cymunedau du. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio'n galed i ddeall hyn a dod o hyd i ffyrdd ystyrlon ac effeithiol pellach o fynd i'r afael ag ef. Mae ein cyfraddau anghymesurol yn is na chyfartaledd y DU ac wedi parhau i leihau dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Fel Prif Gwnstabl rwyf wedi'i wneud yn glir ni fyddaf yn goddef unrhyw fath o aflonyddu neu ymddygiad anaddas o fewn y gweithle sy'n ymwneud â hiliaeth. Nid oes lle i unrhyw un yn y gwasanaeth na all ddiogelu hyder eu cydweithwyr neu'n tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona. Rydym yn cyflogi dros 5,000 o bobl ac yn delio â mwy na 400,000 o achosion y flwyddyn a gwn fod y mwyafrif helaeth yn gweithio'n ddiflino ac yn ymdrechu i wasanaethu eu cymunedau gyda gonestrwydd ac uniondeb gan ddangos y lefelau uchaf o ymddygiad proffesiynol bob amser.”