Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae criced yn helpu i gryfhau'r cwlwm rhwng cymunedau Cwm Cynon yn yr ail ornest y tymor hwn, gan ddod â swyddogion heddlu is-adrannol a thimau o fosgiau lleol ynghyd.
Mewn gornest agos ar ddiwrnod poeth iawn yr wythnos hon, daeth cricedwyr Mosg Aberdâr i'r brig i gipio'r tlws.
Dywedodd y Cwnstabl Lewis McPherson, sy'n rhan o'r Tîm Diogelwch Cymunedol:
“Hoffwn longyfarch ein ffrindiau ym Mosg Aberdâr am lwyddo i gadw'r Tlws Rhyng-ffydd ar ôl trechu Uned Reoli Sylfaenol Morgannwg Ganol Heddlu De Cymru.”
Mewn gornest a gynhaliwyd yn Nhondu yn gynharach yn yr haf, daliodd tîm yr Uned Reoli Sylfaenol ei dir yn erbyn tîm o un ar ddeg o Fosg Abercynffig.
Mae trydedd ornest bellach wedi'i threfnu ar gyfer dechrau mis Medi, a hynny yn Nhondu, yn erbyn cyfuniad o un ar ddeg o'r ddau fosg.
Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Morgannwg Ganol, Stephen Jones:
“Rydw i wrth fy modd ein bod wedi cael y cyfle i chwarae criced yn erbyn aelodau o fosgiau lleol.
“Y nod yw chwalu'r rhwystrau a chryfhau cydberthnasau drwy gyfrwng byd-eang y gamp er mwyn gwella ymgysylltiad a magu hyder yn Heddlu De Cymru."