Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Debbie Hobrough:
“Cafodd Heddlu De Cymru ei alw ar ôl cael adroddiadau o wrthdrawiad traffig difrifol ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, rhwng Ffordd Lecwydd a Ffordd Llandaf, am tua 5pm ddoe (Dydd Llun Awst 8).
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic cwad Yamaha gwyrdd a du.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw gyrrwr y beic cwad, dyn 34 oed, yn y fan a'r lle.
Mae ei berthynas agosaf wedi cael gwybod amdano ac yn cael cymorth gan swyddogion.
Bu'r ffordd ar gau am sawl awr er mwyn i swyddogion gynnal ymchwiliadau ar y safle. Mae wedi ail agor ers hynny.
Mae Uned Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw - maent hefyd yn gofyn i bobl a oedd yn gyrru yn yr ardal i edrych ar eu camerâu dashfwrdd am glipiau fideo a allai gynorthwyo.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy ein gwefan Darparu mwy o wybodaeth i’w hychwanegu at adroddiad trosedd | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk) neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2200266464.