Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:51 31/08/2022
Mae'r Heddlu ym Mhontardawe yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad gan gi a ddigwyddodd ar lwybr y gamlas rhwng Pontardawe ac Ynysmeudwy.
Digwyddodd hyn tua 6pm nos Sadwrn, 20 Awst a bu'n rhaid i ferch ifanc 20 oed gael triniaeth yn yr ysbyty am iddi gael ei brathu.
Mae swyddogion yn ceisio dod o hyd i'r dyn a'r ci a fu'n gyfrifol am yr ymosodiad.
Mae'n ddyn 5tr 11modfedd o daldra, yn ei bedwardegau hwyr/pumdegau cynnar, yn fawr o gorff gyda barf llwyd taclus a gwallt byr llwyd ac roedd yn gwisgo siorts.
Mae'r ci wedi ei ddisgrifio fel Rottweiler coch a du gyda choler brown neu ddu.
Gofynnir i'r dyn, neu unrhyw un sy'n creu ei fod yn ei adnabod, i gysylltu â ni ar https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200284550.