Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:27 21/09/2021
Mae dyn 19 oed a arestiwyd mewn cysylltiad ag ymosodiad rhywiol difrifol ar ferch 16 oed yng nghanol dinas Caerdydd wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae ditectifs yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, a ddigwyddodd yn ardal Stryd Sandon a Stryd Adam ychydig cyn 11pm nos Sadwrn 18 Medi.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Grant Wilson o Heddlu De Cymru: “Mae ymosodiad rhywiol yn un o'r profiadau mwyaf trawmatig a dinistriol sy'n gallu digwydd i rywun, ac rydym ni, yn Heddlu De Cymru, yn ymrwymedig i roi gwasanaeth o'r radd flaenaf i unrhyw un sy'n ei ddioddef.
“Yng Nghaerdydd, mae gennym draddodiad cryf o weithio mewn partneriaeth er mwyn cadw ein dinas yn ddiogel, a hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cyhoedd a chymuned fusnes canol y ddinas am eu help a'u cymorth parhaus yn ystod yr ymchwiliad hwn, sy'n parhau i fynd rhagddo.
“Er bod yr unigolyn a gafodd ei arestio wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, mae ein hymchwiliad yn parhau, ac mae tîm o dditectifs yn cynnal ymholiadau helaeth yng nghanol y ddinas a'r ardaloedd gerllaw.
“Os oes gennych bryderon am yr hyn a ddigwyddodd, neu os oes gennych wybodaeth a allai ein helpu, dylech fynd at swyddog yr heddlu neu gysylltu â ni drwy un o'r dulliau canlynol.”
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Dylech ddyfynnu rhif digwyddiad 330151.