Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad rhywiol difrifol yng nghanol dinas Caerdydd.
Cafodd y dyn o Ben-y-lan ei arestio yn gynharach heno ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae ditectifs yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, a ddigwyddodd yn ardal Stryd Sandon a Stryd Adam ychydig cyn 11pm neithiwr (nos Sadwrn 18 Medi).
Mae merch 16 oed wedi cael ei rhyddhau o Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ar ôl cael triniaeth, ac mae'n parhau i gael ei chefnogi gan ei theulu a swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cynorthwyo'r ymchwiliad, yn arbennig o ran darparu deunydd fideo CCTC, yn ogystal â'r gymuned leol am ei chydweithrediad pan oedd trefniadau ynysu'r heddlu ar waith.
Nid yw'r trefniadau ynysu hyn ar waith mwyach ond mae ymholiadau helaeth yn mynd rhagddynt o hyd.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *330151.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
• Drwy e-bost: [email protected]
Ffoniwch 101.