Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:15 06/09/2021
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i ymosodiad ar Heol y Ddinas, Caerdydd a ddigwyddodd am tua 2.45pm ddoe (Dydd Sul, 5 Medi).
Cafodd pedwar bachgen yn eu harddegau a dyn 20 oed eu cludo i'r ysbyty â mân anafiadau a chawsant eu rhyddhau yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Mae'n debyg bod y bobl a oedd yn rhan o'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd ac mae ymholiadau yn mynd rhagddynt.
Er gwaethaf adroddiadau cychwynnol o'r lleoliad, cadarnhawyd mai amonia ac nid asid oedd yr hylif clir a chwistrellwyd yn ystod yr ymosodiad.
Defnyddir amonia yn gyffredin mewn llifynnau a chynhyrchion glanhau.
Gofynnir i unrhyw un sydd â deunydd fideo o ffôn symudol neu gamera dashfwrdd yn ystod neu yn dilyn y digwyddiad, gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu cyfeirnod *312749.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]