Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
22:43 24/09/2021
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod y fenyw 28 oed sydd wedi bod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ ar Tyntyla Road, Tonypandy, ddydd Mawrth, 21 Medi, wedi marw o'i hanafiadau heddiw.
Mae swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn cefnogi teulu'r fenyw.
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ar ran Crwner EM.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sarah Lewis: “Mae hyn yn newyddion trist a thorcalonnus ac rwy'n meddwl am deulu'r fenyw yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Ein rôl yw ymchwilio'n llawn i'r amgylchiadau cyn y tân a pharatoi ffeil o dystiolaeth ar gyfer cwêst pellach.”