Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:46 09/09/2021
Dros 30 mlynedd ar ôl marwolaeth drasig Lynette White, unwaith eto, rydym yn meddwl am ei theulu a'u ffrindiau. Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn benderfynol o ganfod y gwir am ei llofruddiaeth yn 1988, ac arweiniodd ymchwiliadau yn y pendraw at gael Jeffrey Gafoor yn euog o'i llofruddiaeth, a hynny ar ôl achos o gamweinyddu cyfiawnder a effeithiodd ar fywydau llawer o bobl eraill, ac a arweiniodd at gyfres o ymchwiliadau ac adolygiadau.
Mae Heddlu De Cymru eisoes wedi ymddiheuro i'r diffynyddion gwreiddiol yn yr achos hwn. Mae gennym ddealltwriaeth lawer gwell o'r holl ddigwyddiadau a arweiniodd at yr achos gwreiddiol o gamweinyddu cyfiawnder erbyn hyn. Mae'r un peth yn wir am yr ymchwiliad dilynol i gamymddwyn honedig gan yr heddlu, a arweiniodd at beidio â pharhau â'r achos yn 2011. Ers hynny, mae llawer o sylw wedi cael ei roi i'r achos.
O ganlyniad i ddysgu'r gwersi o'r achos hwn o gamweinyddu cyfiawnder, mae Heddlu De Cymru wedi trawsnewid ei ymarfer wrth gynnal ymchwiliadau ac wedi dod yn heddlu blaenllaw mewn perthynas ag adolygu ymchwiliadau troseddau mawr. Yn benodol, mae'r gwersi a ddysgwyd gennym am yr heriau sy'n gysylltiedig â datgelu yn y system cyfiawnder troseddol wedi arwain at arferion da cydnabyddedig sydd wedi cael eu rhannu'n genedlaethol.
Mae'r gyfres hon o ddigwyddiadau wedi gwneud yr heddlu yn fwy penderfynol o wella ei safonau ymchwilio drwy'r amser. Fodd bynnag, yn anad dim, rydym yn cofio Lynette a fu farw yn drasig ar Ddydd Sant Ffolant yn 1988. Ni fydd yn mynd yn angof.