Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:01 03/09/2021
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod dyn wedi marw yn sydyn mewn eiddo ar West Walk, y Barri.
Aeth swyddogion i'r eiddo tua 1am heddiw, ac maent yn dal yno wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel llofruddiaeth.
Cafodd dyn 53 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae ystafell digwyddiad wedi'i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George:
"Gallaf gadarnhau bod ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau ar ôl i gorff dyn lleol gael ei ddarganfod yn ystod oriau mân y bore yn West Walk yn y Barri. Bydd llawer o swyddogion yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.
"Nid yw'r dioddefwr wedi cael ei enwi'n ffurfiol eto.
"Rydym yn apelio'n uniongyrchol at aelodau o'r gymuned leol a all gynnig gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw weithgarwch amheus yn ardal West Walk a'r cyffiniau yn y Barri, yn enwedig rhwng nos Lun 30 Awst ac oriau mân bore dydd Gwener 3 Medi. Ni waeth pa mor ddi-nod yw'r wybodaeth yn eich barn chi, cysylltwch â'r ystafell digwyddiad mawr."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r Tîm Troseddau Mawr yn uniongyrchol drwy'r porth cyhoeddus hwn https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B39-PO1 neu fel arall drwy ddefnyddio un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100309626.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffoniwch: 101.