Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a drywanodd ei wraig yn ei chefn â chyllell gegin wedi cael ei garcharu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Yn gynharach y mis hwn, cafodd Shashi Annadi, 28 oed, ei ryddfarnu o ymgais i lofruddio, ond cafodd ei euogfarnu o glwyfo gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol yn eu cartref yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i fflat y cwpwl ar Richmond Road yn ystod oriau mân y bore ar 20 Ionawr 2021.
Roedd Annadi wedi trywanu ei wraig yn ei chefn gan achosi i'r llafn fynd yn sownd yn ei chorff.
I ddechrau, honnodd ei bod wedi cwympo ar y gyllell a chadwodd Annadi at y fersiwn ffug hon o'r digwyddiadau drwy'r cyfan.
DI Grant Wilson o Heddlu De Cymru oedd yr Uwch Swyddog Ymchwilio.
"Roeddem o’r farn o'r dechrau'n deg fod yr anaf wedi’i achosi’n fwriadol gan y dyn drwgdybiedig, Shashi Annadi," dywedodd.
"Gweithiodd y swyddogion yn ddiflino dros y 48 awr cyntaf i sicrhau tystiolaeth hanfodol a rhoi cymorth a thawelwch meddwl hollbwysig i ddioddefwr yr achos difrifol iawn hwn o gam-drin domestig.
"Diolch byth, arweiniodd yr ymdrechion hyn at ennyn ei hymddiriedaeth a darparwyd adroddiad cywir.
"Yn yr wythnosau ar ôl yr ymosodiad, dychwelodd ei wraig i India ac er gwaetha'r pellter, cadwodd y swyddogion ei hymddiriedaeth a'i hyder ynddynt a'i galluogodd i ddarparu tystiolaeth i'r treial drwy gyswllt fideo o India.
"Roedd hi'n eithriadol o ddewr ac rydym yn mawr obeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn ei galluogi i symud ymlaen o'r profiad mwyaf trawmatig hwn a dymunwn adferiad llawn iddi o'i hanafiadau."
Cafodd Annadi ei ddedfrydu ddoe (dydd Llun, 27 Medi) yn Llys y Goron Casnewydd, i ddedfryd estynedig o 16 o flynyddoedd sy'n cynnwys 13 o flynyddoedd yn y carchar a chyfnod estynedig o dair blynedd ar drwydded.
Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ac mae’r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad.
Mae cam-drin a thrais domestig yn effeithio ar bobl o bob cefndir ac mewn llawer o wahanol ffyrdd.
Gall yr effaith fod yn ddinistriol, angheuol a hirdymor i fenywod, eu plant, teuluoedd a ffrindiau.
Darganfyddwch beth sy’n cael ei gyfrif yn gam-drin domestig, sut i roi gwybod amdano a sut y gallwn helpu, drwy ymweld â’n gwefan.
Byddwn hefyd yn dangos i chi sut i ddileu’ch ymweliad â’n gwefan o’ch hanes pori, os bydd angen i chi wneud hynny.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.