Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Llun 6 Medi gwnaeth swyddogion Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru, ar y cyd â swyddogion o Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed-Powys, weithredu nifer o warantau mewn cyfeiriadau ledled Caerdydd, Abertawe a Llanbedr Pont Steffan fel rhan o ymgyrch barhaus i fynd i'r afael ag achosion o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn Ne Cymru.
Yn ystod y chwiliadau daeth swyddogion o hyd i'r canlynol:
Cafodd pum dyn eu harestio o ganlyniad i hyn ac maent bellach wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B:
Fation Bardhaj, 37, o Ben-y-lan, Caerdydd.
Klodian Zefi, 33, o'r Rhath, Caerdydd.
Gregory Hardy, 32, o Waunarlwydd, Abertawe.
Elon Joseph, 32, o Waunarlwydd, Abertawe.
Bardhok Bardhoj, 49, o Gilcennin, Ceredigion.
Byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Grant o Tarian:
“Dim ond rhan fach o'r gwaith rydym yn ei wneud yn Tarian i sicrhau nad yw ardaloedd De Cymru yn amgylchedd hawdd i gyflawni troseddau sy'n ymwneud â chyffuriau yw'r gwarantau a weithredwyd gennym yr wythnos hon.
“Roedd yr ymgyrch hon yn ymgyrch ddwys, a lwyddodd diolch i gydweithrediad gwahanol heddluoedd ledled De Cymru. Bydd Tarian yn parhau i fynd i'r afael â'r diflastod y mae cyffuriau yn ei achosi i'n cymunedau.
"Mae llwyddiant yr ymchwiliad hwn hyd yma yn dangos y byddwn yn ymlid yr unigolion hynny sy'n ymgymryd â throseddau ar raddfa fawr yn ddiflino, er mwyn ceisio cyfiawnder effeithiol yn eu herbyn, a sicrhau eu bod yn cael eu dwyn gerbron y Llysoedd.
“Os byddwch yn amau bod pobl yn delio mewn cyffuriau neu os byddwch yn poeni bod person ifanc neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
“Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.”