Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw ar ôl i'r beic modur Kawasaki yr oedd yn ei yrru fod mewn gwrthdrawiad un cerbyd yn y Bontfaen wedi cael ei enwi.
Ei enw yw Matthew Rouch, 41 oed, o Benarth.
Mae ei deulu wedi rhyddhau'r datganiad canlynol sy'n talu teyrnged iddo:
"Roedd Matthew yn dad, yn fab ac yn frawd cariadus.
"Byddwn ni, fel teulu, yn trysori ein hatgofion ohono fel dyn arbennig a byddwn yn ei gadw yn ein calonnau am byth.
"Bydd colled aruthrol ar ôl Matthew."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 7.30pm nos Fercher 29 Medi ar yr A48 ger y Bontfaen, rhwng yr A4222 a'r B4268.
Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth neu fideo dashfwrdd a allai helpu gyda'r ymchwiliad, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu cyfeirnod *343258.
Ewch i: https://bit.ly/HDCDarparuGwyb
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Ebostiwch: [email protected]
Ffoniwch: 101