Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
22:37 24/09/2021
“Mae gan Gaerdydd record ardderchog o weithio mewn partneriaeth ac mae hyn wedi helpu i sicrhau bod ei heconomi nos yn ddiogel, yn ffyniannus ac yn groesawgar.
“Caiff rhai o'r ymyriadau a ddefnyddir yng nghanol y ddinas eu hystyried yn arferion da ac maent wedi cael eu mabwysiadu gan heddluoedd eraill.
“Fodd bynnag, deallwn fod digwyddiadau diweddar wedi achosi pryder ac, fel bob amser, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, fel yr awdurdod lleol, prifysgolion a For Cardiff, i sicrhau bod Caerdydd yn parhau i fod yn lle diogel i breswylwyr ac ymwelwyr.
“Mae gennym batrolau gwelededd uchel ym mhob rhan o ganol y ddinas a'r cyffiniau i atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae dau Fws Diogelwch yn rhedeg bob nos hefyd yn ystod cyfnod y Glas er mwyn sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn mynd adref yn ddiogel o ganol y ddinas, ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i roi mwy o systemau CCTV ar waith ym Mharc Bute ac ar hyd llwybrau eraill allan o'r ddinas.
“Mae swyddogion yr heddlu hefyd wedi hyfforddi staff ar safleoedd trwyddedig yng nghanol y ddinas i'w helpu i nodi a diogelu pobl sy'n agored i niwed ac rydym yn gweld enghreifftiau rheolaidd lle mae'r hyfforddiant hwn wedi talu ffordd.
“O ran digwyddiadau diweddar, mae unigolion wedi cael eu harestio a'u cyhuddo, a thra bod ein hymchwiliadau a'n patrolau yn mynd rhagddynt, rydym am i bobl allu mynd allan, mwynhau eu hunain a theimlo'n ddiogel yn ein prifddinas.”
Os oes gan unrhyw un bryderon, siaradwch ag un o swyddogion yr heddlu neu cysylltwch â ni drwy un o'r dulliau canlynol.
https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Dylech ffonio 999 mewn argyfwng bob amser.