Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:06 30/09/2021
Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu wedi rhoi'r wybodaeth isod am gadarnhau pwy yw swyddogion yr heddlu, ar ôl i lofruddiwr Sarah Everard gael ei ddedfrydu heddiw.
“Mae gweithredoedd erchyll Wayne Couzens yn enghraifft ofnadwy o gamddefnyddio pŵer ac nid ydynt yn cynrychioli'r byd plismona. Mae swyddogion yr heddlu a staff sy'n diogelu'r cyhoedd wedi'u ffieiddio gan droseddau'r gŵr hwn.
“Rydyn ni'n deall bod ei weithredoedd wedi peri gofid mawr a bod pobl yn awyddus i wybod sut y gellir cadarnhau pwy yw swyddogion yr heddlu.
“Mae swyddogion yr heddlu bob amser yn cario prawf adnabod a gellir gofyn iddynt am gadarnhad bob amser. Maent wedi arfer rhoi'r sicrwydd hwnnw.
“Byddai'n eithriadol o anarferol i swyddog mewn dillad plaen fod yn gweithio ar ei ben ei hun. Os bydd hynny'n digwydd, dylai alw am gymorth ac aros i swyddogion eraill gyrraedd yn fuan iawn. Gwneir hyn fel mater o drefn.
“O ystyried gweithredoedd Wayne Couzens, dylai swyddogion yr heddlu ddisgwyl y bydd pobl am gael sicrwydd pellach a dylent fod yn oddefgar o hynny. Byddant am esbonio a chadarnhau pwy ydyn nhw, beth maen nhw'n ei wneud a pham.
“Os byddwch yn dal i deimlo nad yw pethau'n iawn neu os byddwch mewn perygl uniongyrchol, os bydd hynny'n golygu gweiddi ar aelod arall o'r cyhoedd, chwifio ar gar i stopio neu hyd yn oed ddeialu 999, gwnewch hynny."