Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:43 17/09/2021
Am tua 7.15pm ddydd Sul, 12 Medi aeth swyddogion i Westy Tadross yn Holton Road, y Barri, fel rhan o ymchwiliad i ddigwyddiad domestig mewn cyfeiriad gwahanol.
Yn y gwesty dechreuodd dyn ymddwyn mewn ffordd ymosodol a defnyddio iaith ddifrïol. O ganlyniad i hyn, defnyddiwyd PAVA – chwistrell analluogi.
Cafodd dyn 42 oed ei arestio ar amheuaeth o fod yn feddw ac afreolus ac ymosod ar un o'r swyddogion drwy boeri arno.
Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra gwneir ymholiadau pellach.
Rydym yn gwybod bod fideo o'r digwyddiad yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae'r mater yn cael ei ystyried gan Adran Safonau Proffesiynol yr heddlu.
Gofynnir i unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu *322126.
Ewch i: https://bit.ly/HDCDarparuGwyb
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Ebostiwch: [email protected]