Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ôl ffigurau UK Finance, yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, gweithiodd staff canghennau mewn banciau, cymdeithasau adeiladu a Swyddfeydd Post gyda'r heddlu i atal twyll o £322,958 drwy ymateb cyflym i dwyll y Protocol Bancio yn Ne Cymru.
Mae'r Protocol Bancio yn gynllun ledled y DU, a lansiwyd gan UK Finance, y Safonau Masnach Cenedlaethol a'r heddlu. Caiff staff canghennau eu hyfforddi i nodi'r arwyddion rhybudd sy'n awgrymu y gallai cwsmer fod yn dioddef twyll, cyn rhoi gwybod i'w heddlu lleol er mwyn iddynt ymyrryd ac ymchwilio.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, rhoddodd staff canghennau y Protocol Bancio ar waith 104 o weithiau yn Ne Cymru rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2021, gan arbed swm cyfartalog o £3,100 yr un i ddarpar ddioddefwyr. Mae'r cynllun wedi atal cyfanswm o £174m o dwyll ac wedi arwain at 934 o arestiadau ledled y DU ers iddo gael ei lansio yn 2016.
Defnyddir y protocol i atal twyll dynwared pobl, lle mae'r troseddwyr yn dynwared aelodau'r heddlu neu aelodau staff yn y banciau ac yn argyhoeddi pobl i ymweld â'u banc a chodi neu drosglwyddo symiau mawr o arian. Fe'i defnyddir hefyd i atal twyll caru, lle mae'r twyllwyr yn defnyddio proffiliau chwilio cymar ffug ar-lein i dwyllo dioddefwyr i drosglwyddo arian, ac i ddal masnachwyr twyllodrus sy'n mynnu arian parod am waith diangen ar eiddo.
Cynigir amrywiaeth o gymorth parhaus i'r cwsmeriaid a gynorthwyir gan y cynllun er mwyn helpu i'w hatal rhag dioddef twyll eto yn y dyfodol.
Dywedodd Katy Worobec, Rheolwr Gyfarwyddwr Troseddau Economaidd yn UK Finance:
“Mae twyll yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr, felly mae partneriaethau fel y Protocol Bancio yn hollbwysig er mwyn helpu pobl agored i niwed ond mae hefyd yn atal arian wedi'i ddwyn rhag ariannu gweithgareddau anghyfreithlon eraill, sy'n cynnwys smyglo cyffuriau, masnachu mewn pobl a therfysgaeth.
“Mae troseddwyr wedi parhau i fanteisio ar y pandemig er mwyn cyflawni twyll, gan dargedu dioddefwyr yn ddidrugaredd drwy ddynwared pobl, twyll caru, twyll cludwyr a masnachwyr twyllodrus. Mae staff canghennau a'r heddlu'n gweithio ar y rheng flaen i ddiogelu pobl rhag twyll ac mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd eu gwaith wrth atal twyll creulon a dod â'r troseddwyr o flaen eu gwell.”
Dywedodd y Ditectif Rhingyll Nicola Richards, o Heddlu De Cymru:
“Rydym yn ymrwymedig i wneud yr hyn y gallwn i atal twyll, dal cyflawnwyr, a chefnogi dioddefwyr posibl – yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed.
“Gwyddom fod twyllwyr yn gyfrwys, gan ddefnyddio dulliau sy'n cynnwys dynwared staff yr heddlu, y llywodraeth neu fanciau, er mwyn ceisio cael eu dioddefwyr i drosglwyddo arian neu gael mynediad i'w cyfrif. Mae proffiliau caru ar-lein ffug – sy'n ceisio twyllo dioddefwyr i anfon arian – hefyd yn gyffredin.
“Mae'r Protocol Bancio yn chwarae rôl hanfodol i leihau'r risg y gall rhywun gael ei dwyllo fel hyn, neu gael ei ecsbloetio gan fasnachwyr twyllodrus, drwy sicrhau y gall staff banciau adnabod arwyddion twyll a hysbysu'r heddlu ar unwaith.”
Er mwyn adeiladu ar lwyddiant y cynllun, mae banciau a chymdeithasau adeiladu'n gweithio gyda'r heddlu i ehangu'r broses er mwyn ymdrin ag ymdrechion i drosglwyddo arian gan gwsmeriaid drwy fancio dros y ffôn ac ar-lein.
Caiff cwsmeriaid eu hannog i ddilyn cyngor yr ymgyrch Take Five to Stop Fraud, ac i gofio na fydd y banc na'r heddlu byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian i gyfrif arall nac i godi arian parod i'w trosglwyddo iddynt er mwyn ei gadw'n ddiogel.
Ceisiodd menyw anfon taliad o £2,500 ar-lein i ffrind yn UDA yr oedd hi wedi gweithio gydag ef yn y DU. Pan gafodd y taliad ei atal, aeth hi i'w changen leol o'r banc, gan ddatgelu ei bod hi wedi bod yn cyfnewid negeseuon gyda'r ffrind ar y cyfryngau cymdeithasol a'i fod wedi gofyn iddi am yr arian i dalu am ffioedd ysbyty. Rhoddodd y staff y Protocol Bancio ar waith ac aeth yr heddlu i'r gangen. Ni chafodd unrhyw arian ei golli.
Derbyniodd menyw yn ei 80au alwad ffôn gan ddyn yn honni ei fod yn ffonio o'i banc a dywedodd fod problem gyda chyfrif y dioddefwr; dywedodd wrthi, er mwyn iddo ei helpu hi, fod angen iddi godi £2,000 o'i chyfrif yn y lle cyntaf. Dywedodd wrth y dioddefwr am fynd i'r banc i wneud hynny ac i ffonio'n ôl pan fyddai'n cyrraedd adref.
Aeth y dioddefwr i'r gangen a dywedodd y staff wrth y dioddefwr mai twyll ydoedd. Gwrthodon nhw adael iddi godi'r arian a rhoddwyd y Protocol Bancio ar waith, a roddodd wybod i'r heddlu. Daeth yr heddweision a chynnig cyngor ar dwyll i'r dioddefwr. Rhoddodd y banc fesurau ar waith hefyd i ddiogelu'r dioddefwr rhag twyll yn y dyfodol.
Aeth gŵr yn ei 90au i'w gangen leol o'r banc gan fod taliad rhyngwladol yr oedd wedi ceisio'i wneud ar-lein wedi’i atal. Roedd cwmni wedi cysylltu ag ef a oedd am werthu cyfranddaliadau yr oedd ganddo yn America, gan ddweud y gallai gael elw o £60,000 ond roedd rhaid iddo anfon $7,000 y byddai'n ei gael yn ôl. Rhoddodd staff y gangen y Protocol Bancio ar waith ac aeth yr heddlu i ymweld ag ef yn ei gartref. Ni chafodd unrhyw arian ei golli ac mae'r heddlu'n ymchwilio i'r cwmni.
Cafodd menyw yn ei 80au adeiladwyr draw yn esbonio eu bod wedi bod yn gweithio ar do ei chymydog ac wedi sylwi bod angen trwsio ei tho hithau hefyd. Cynigiodd y dioddefwr ddangos ei heiddo i'r adeiladwyr a dywedon nhw wrth y dioddefwr fod angen iddo gael ei drwsio fel mater o frys.
Rhoddodd yr adeiladwyr ddyfynbris am y gwaith (£1,500) gan ddweud wrth y dioddefwr mai dim ond arian parod y gallan nhw ei gymryd. Esboniodd y dioddefwr y byddai angen iddi fynd i'r banc i godi'r arian hwn. Roedd y staff yn y banc yn pryderu mai twyll oedd hyn a rhoddon nhw'r Protocol Bancio ar waith – gan roi gwybod i'r heddlu – a gwrthodon nhw'r trafodyn.