Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i fwrgleriaeth drwy dynnu sylw yng nghartref gŵr oedrannus yn y Barri.
Cnociodd y dau ddyn a amheuir, a oedd yn honni eu bod yn gweithio i'r bwrdd dŵr, ar ddrws y gŵr yn Barrians Way am oddeutu 5pm ddydd Sul, 26 Medi.
Gwnaethant ofyn am gael edrych ar ei gyflenwad dŵr ond ar ôl mynd i mewn, gwnaethant ei wthio i'r soffa a dwyn arian, tybaco a ffôn symudol oddi wrtho.
Diolch byth, ni chafodd y dioddefwr 80 oed ei anafu ac er bod y digwyddiad wedi'i ysgwyd, mae wedi dweud wrth y swyddogion ei fod yn teimlo'n ddiogel.
Mae'n cael cymorth llawn gan y swyddogion i gynnal ymholiadau i geisio adnabod ac arestio'r rhai sy'n gyfrifol.
Disgrifiwyd y dynion a amheuir fel gwyn, yn eu 30au neu 40au, gydag acenion lleol ac yn gwisgo masgiau wyneb.
Roedd gan un ohonynt fwstas, roedd yn gwisgo het felen galed a chôt waith.
Roedd y dyn arall, a oedd yn fwy byrdew na'r cyntaf, yn gwisgo top melyn a het galed.
Mae hwn yn ddigwyddiad unigol ond byddem yn annog unrhyw un sydd â pherthnasau oedrannus neu'r rhai sy'n gofalu am bobl hŷn i'w gwneud nhw'n ymwybodol o'r digwyddiad hwn.
Mae lladron tynnu sylw yn esgus bod yn rhywun arall er mwyn cael mynediad i'ch cartref.
Mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i atal bwrgleriaeth drwy dynnu sylw.
Os teimlwch dan fygythiad neu mewn perygl oherwydd presenoldeb y galwr, ffoniwch 999.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *339779.
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]