Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:37 04/09/2021
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i farwolaeth dyn 61 oed yn y Barri, sy'n cael ei thrin fel ymchwiliad i lofruddiaeth.
Gall swyddogion bellach enwi'r dioddefwr y daethpwyd o hyd iddo yn ei gartref yn West Walk, y Barri tua 1am ddydd Gwener, 3 Medi.
Enw'r dyn oedd Robert Farley. Roedd yn 61 oed ac yn dod o'r Barri.
Mae merch Robert wedi talu teyrnged iddo:
“‘Y gŵr tawel’ oedd yr enw a gafodd Bobby gan y rhai a oedd yn ei adnabod.
“Mae hyn yn cyfleu ei bersonoliaeth yn dda; roedd yn ddyn tyner, heddychlon a chariadus.
“Yn gynharach yn ei fywyd, roedd yn ddyn gweithgar a chymdeithasol iawn ac roedd llawer o bobl yn hoff iawn ohono.
“Bu Bobby yn ymladd ag alcoholiaeth, a cheisiodd oresgyn hyn sawl gwaith gyda chymorth gan ei ffrindiau a'i deulu.
“Roedd yn fab, yn frawd, yn dad i Michele ac yn dad-cu i dri bachgen hyfryd.
“Mae ein calonnau yn llawn tristwch a galar yn sgil marwolaeth annhymig tad, tad-cu a ffrind annwyl. Byddwn yn cofio am dad fel dyn caredig, bywiog, carismatig a hwyliog a bydd yn byw yn ein calonnau am byth!”
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George:
"Rwy'n apelio eto at aelodau o'r gymuned leol a all gynnig gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw weithgarwch amheus yn ardal West Walk a'r cyffiniau yn y Barri, yn enwedig rhwng nos Lun 30 Awst ac oriau mân bore dydd Gwener 3 Medi."
"Ni waeth pa mor ddi-nod yw'r wybodaeth yn eich barn chi, cysylltwch â'r ystafell digwyddiad mawr.
“Hoffwn ddiolch i'r bobl yn y gymuned sydd wedi cysylltu gyda gwybodaeth hyd yn hyn."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r Tîm Troseddau Mawr yn uniongyrchol drwy'r porth cyhoeddus hwn https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B39-PO1 neu fel arall drwy ddefnyddio un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100309626.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101.