Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:29 09/09/2021
Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru wedi diolch i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu a'i bartneriaid, ac wedi talu teyrnged i'r bobl hynny nad ydynt yma mwyach fel rhan o Ddiwrnod y Gwasanaethau Brys.
Mae'r heddlu hefyd wedi nodi'r diwrnod drwy gynnal munud o dawelwch am 9.00am. Gofynnwyd i weithwyr ddangos eu parch er cof am y bobl hynny a fu farw wrth wasanaethu yn y gwasanaethau brys yn ystod y 200 mlynedd diwethaf, sef mwy na 7,500 o bobl.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Ar Ddiwrnod y Gwasanaethau Brys eleni hoffwn ddweud diolch. Diolch i'm tîm – Tîm Heddlu De Cymru. I bob swyddog yr heddlu, pob aelod o staff a phob gwirfoddolwr sy'n cydweithio ddydd a nos i gadw De Cymru'n ddiogel.
“Diolch i'n partneriaid. I'n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y gwasanaeth tân ac achub, awdurdodau lleol a llawer o asiantaethau statudol a thrydydd sector eraill. Ni all un gwasanaeth ar ei ben ei hun ymlid troseddwyr, atal niwed ac amddiffyn pobl sy'n agored i niwed – rydym yn cyflawni hyn drwy gydweithio.
“Hoffwn ddiolch i chi hefyd – ein cymunedau. Rydym bob amser wedi gwerthfawrogi'r ffordd rydych wedi cydweithio â ni, yn arbennig yn ystod y deunaw mis diwethaf. Mae'r empathi a'r cydymdeimlad a ddangoswyd gan y mwyafrif helaeth ohonoch chi, am y dasg anodd sy'n wynebu ein gweithwyr rheng flaen, wedi bod yn wych.
“Mae Diwrnod y Gwasanaethau Brys yn cynnig cyfle i ni feddwl a chofio'r bobl hynny nad ydynt gyda ni mwyach. Y cydweithwyr a fu farw wrth wasanaethu a'r bobl sydd wedi ein gadael yn rhy gynnar. Diolch am dy wasanaeth.”
Mae'r galw ar Heddlu De Cymru wedi cynyddu'n sylweddol ers i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio.
Mewn argyfwng, os byddwch chi neu rywun arall yn wynebu perygl uniongyrchol neu os bydd trosedd yn cael ei chyflawni, rhaid i chi ffonio 999. Fodd bynnag, os nad mater brys ydyw, mae Heddlu De Cymru yn eich annog i roi gwybod amdano ar-lein. Mae'r ystafell reoli ar gael drwy negeseuon uniongyrchol ar Facebook a Twitter, a thrwy ffurflenni adrodd ar wefan yr heddlu: www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/
Nod Diwrnod y Gwasanaethau Brys, a elwir hefyd yn Ddiwrnod 999, yw cydnabod y gwaith hollbwysig a wneir gan weithwyr y gwasanaethau brys ledled y wlad. Cynhelir y diwrnod ar 9 Medi bob blwyddyn. Mae'n dechrau am 09.00am, ar y nawfed dydd o'r nawfed mis, gyda dwy funud o dawelwch i gofio am weithwyr y gwasanaethau brys yn y DU a fu farw wrth wasanaethu, sef dros 7,000 o bobl.