Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar yr A4107 Heol Brytwn, Castell-nedd tua 4.25pm ddydd Mawrth, 7 Medi.
Bu farw James Huxtable, a oedd yn gyrru beic modur glas Yamaha, yn dilyn gwrthdrawiad â Ford Focus arian ar yr A4107, a elwir fel arfer yn Ffordd Cwm Afan.
Mae'n gadael ei rieni, Derek ac Eleanor, ei frawd Thomas a'i chwaer Rachel.
Talodd Ashley, gwraig Mr Huxtable, deyrnged iddo, gan ddweud:
“Bu'n ŵr, yn dad ac yn llystad cariadus i Laezena, Dafydd, Duncan, Eleri a Valentine.
“Roedd yn ddyn gweithgar iawn, brwdfrydig, cariadus a sensitif nad oedd yn ofni dangos ei deimladau.
“Bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn dda yn gwybod pa mor ddireidus oedd ei synnwyr digrifwch.
“Roedd yn dwlu ar fynd allan ar ei feic modur, ond yn dweud bob amser ei fod wrth ei fodd gartref gyda'r teulu a oedd mor annwyl iddo.
“Ers iddo ein gadael, mae gwacter yn ein bywydau a'n calonnau bellach lle dylai fe fod.
“Bydd ei deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn ffatri Aston Martin yn Sain Tathan yn gweld ei eisiau'n fawr iawn.”
Cafodd y dyn 43 oed a oedd yn gyrru'r Ford Focus arian ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru diofal ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sut roedd y naill gerbyd neu'r llall yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu cyfeirnod *315460.