Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:15 04/10/2021
Mae dyn wedi cael dedfryd estynedig o garchar am dreisio menyw ym Mharc Biwt, Caerdydd.
Cyfaddefodd Tyler Higgins, 20, ei fod yn euog o ddau achos o drais yn ystod oriau mân y bore, 15 Gorffennaf, 2021.
Dywedodd y dioddefwr ei fod yn dioddef ôl-fflachiadau cyson ac yn cael hunllefau o ganlyniad i'w weithredoedd.
Gwelodd Higgins, o Cathays, Caerdydd, y fenyw pan aeth ar goll wrth gerdded o Cathays yn ôl i'w gwesty yng nghanol y dref.
Cynigiodd ddangos y ffordd iddi, ond yn hytrach, aeth â hi i Barc Biwt, lle cyflawnodd yr ymosodiad ffyrnig.
Cafodd Higgins ei adnabod o ganlyniad i apêl am wybodaeth yn y cyfryngau, a chafodd ei arestio o fewn 48 awr i'r digwyddiad.
Wrth ddedfrydu Higgins yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, roedd y barnwr wedi canmol ‘ansawdd a chyflymder’ ymchwiliad Heddlu De Cymru.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Grant Wilson o Heddlu De Cymru: "Mae ymosodiadau gan ddieithryn fel hyn yn anarferol iawn yng Nghaerdydd, ond roedd Tyler Higgins yn unigolyn peryglus.
"Roedd allan yn ystod oriau mân y bore heb reswm da a manteisiodd ar fenyw ar ei phen ei hun, a ymddiriedodd ynddo."
Aeth swyddogion ati i bori drwy fideo CCTV a chafodd delwedd o unigolyn dan amheuaeth ei ryddhau drannoeth fel rhan o apêl gyhoeddus am wybodaeth.
Cafodd Higgins ei adnabod a'i arestio.
Tra roedd yn cael ei gyfweld, cafodd tystiolaeth fforensig ei phrosesu fel blaenoriaeth, a bu'r dioddefwr yn ddigon dewr i roi cyfrif o'r hyn ddigwyddodd i swyddogion a oedd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Er i Higgins geisio dinistrio tystiolaeth drwy olchi ei ddillad, roedd tystiolaeth sylweddol yn ei erbyn, a phlediodd yn euog.
"O'r funud y cafodd yr heddlu wybod am y drosedd, roeddem benderfynol o ddod o hyd i'r sawl a oedd yn gyfrifol a'i ddwyn gerbron ei well," meddai DI Wilson.
"Llwyddwyd i wneud hynny ac rydym yn gobeithio bod y ddedfryd heddiw wedi rhoi tawelwch meddwl iddi ac yn ei galluogi i adfer ei hyder, parhau â'i hastudiaethau a chyflawni ei holl uchelgeisiau.
Mae'r ymchwiliad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu menywod rhag trais a chadw ein prifddinas yn ddiogel.
"Hoffem ddiolch i'r tystion a gefnogodd y dioddefwr yn ystod oriau mân 15 Gorffennaf a'n hymchwiliad ni."
Mae Heddlu De Cymru yn rhoi sylw difrifol iawn i bob adroddiad am ymosodiad rhywiol ac rydym yn annog dioddefwyr i roi gwybod i ni, ni waeth pryd y digwyddodd, gan fod yn hyderus y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas ac y cynhelir ymchwiliad llawn i'w honiadau.
Cafodd Higgins ddedfryd estynedig o garchar am 15 mlynedd, a bydd yn y carchar am o leiaf ddwy ran o dair o'r cyfnod o 10 mlynedd cyn cael ei ystyried am barôl.