Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:37 14/10/2021
Dioddefodd dau ddyn 21 oed glwyfau tyllog a gwelwyd grŵp o ddynion yn rhedeg i ffwrdd o'r lleoliad. Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo.
Anogir unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd y Brenin a welodd y digwyddiad neu a allai fod â fideo dashfwrdd neu ffôn symudol i gysylltu â'r heddlu.
Mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed i geisio canfod pwy oedd yn gyfrifol, ond nid oes unrhyw un wedi ei arestio hyd yma.
Mae i droseddau cyllyll ganlyniadau trychinebus ac mae mynd i'r afael â'r mater pryderus hwn yn flaenoriaeth i ni. Mae ein swyddogion yn patrolio canol y ddinas ac yn arfer pwerau stopio a chwilio pan fydd ganddynt sail i wneud hynny.
Anogir unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth, i gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol:
Dyfynnwch y cyfeirnod: *303953.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy anfon e-bost: [email protected]
Ffoniwch: 101