Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:11 05/10/2021
Mae'r difrod yn cael ei drin fel trosedd casineb, ac mae swyddogion yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd yr Arolygydd Kevin Jones o Adran Diogelwch Cymunedol Heddlu De Cymru: “Cafodd y murlun My City My Shirt ei baentio fel rhan o brosiect cymunedol yn dathlu Caerdydd fel dinas amrywiol, ac mae'r darn o waith celf wedi denu clod mawr.
“Mae'n debyg bod paent gwyn wedi cael ei daflu dros y murlun yn fwriadol o'r palmant, lle mae tasgiadau o baent i'w gweld hefyd.
“Wrth reswm mae trigolion lleol, yr artist ac Unify Creative, a fu'n gyfrifol am gomisiynu'r prosiect, wedi eu siomi'n fawr gan yr hyn sydd wedi digwydd i'r murlun hwn, sy'n dangos Caerdydd fel dinas amlddiwylliannol falch a chroesawgar.”
Rhoddwyd gwybod am y difrod i'r murlun ar James Street ddydd Llun, 4 Hydref a chredir ei fod wedi digwydd rywbryd yn ystod y nos.
Mae ymholiadau'n parhau i fynd rhagddynt, a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu *348427.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Mae trosedd casineb yn unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol.
Nid oes lle i droseddau casineb yn ein cymdeithas, ac mae troseddau o'r fath bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.
Mae Caerdydd yn ddinas fodern, amlddiwylliannol, lle mae pobl o wahanol grefyddau, credoau a diwylliannau yn byw ochr yn ochr â'i gilydd, ac wedi gwneud ers blynyddoedd lawer.
Rydym bob amser yn annog unrhyw un sy'n dioddef trosedd casineb i gysylltu â ni am fod swyddogion arbenigol gennym a all gynnig cefnogaeth a chymorth.