Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yr heddlu sy'n ymchwilio i helynt mawr yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2021 bellach wedi arestio mwy na 40 o bobl ledled De Cymru ac ardaloedd eraill o'r DU.
Roedd Heddlu De Cymru a nifer o heddluoedd eraill yn rhan o'r ymgyrch i arestio'r bobl hynny.
Yng Nghaerdydd, mae 20 o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r helynt, gan gynnwys 15 o ddynion, pedwar bachgen yn eu harddegau ac un fenyw.
Cafodd 26 o bobl eraill eu harestio yn ardaloedd yr heddlu canlynol – Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd (18), Heddlu Dyffryn Tafwys (4), Swydd Bedford (1), Swydd Hertford (1), Surrey (1) a Gwent (1).
Cafodd y rhan fwyaf o'r 46 o bobl eu harestio ar 22 Medi 2021 ac mae pawb a gafodd eu harestio ar fechnïaeth yr heddlu o hyd.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Shirenewton ar Wentloog Avenue, Trowbridge, Caerdydd ychydig ar ôl 4pm ddydd Sul, 21 Mawrth 2021.
Cafodd pedwar dyn eu hanafu yn ystod yr helynt.
Atafaelwyd nifer o arfau ar y pryd, a chafodd nifer o unigolion eu harestio yn fuan wedi hynny.
Parhaodd ein hymholiadau, gan arwain at yr arestiadau pellach hyn.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Ceri Hughes o Heddlu De Cymru: “Mae'r gwaith gorfodi a wnaed yn ddiweddar yn dilyn ymchwiliad cymhleth chwe mis o hyd a gynhaliwyd gan dîm o dditectifs Heddlu De Cymru, gyda chymorth nifer o heddluoedd eraill.
“Ym mis Mawrth, gwnaethom addo y byddem yn dod o hyd i'r bobl a oedd yn gyfrifol am yr anhrefn sylweddol hwn, ac mae'n bleser gennyf ddweud, gyda chymorth heddluoedd eraill, fod nifer sylweddol o bobl wedi cael eu harestio.
“Rydym yn credu bod yr unigolion a arestiwyd yn gysylltiedig â'r anhrefn difrifol ar Safle Sipsiwn a Theithwyr Shirenewton ar 21 Mawrth eleni.
“Fel bob amser, mae Heddlu De Cymru yn ymdrechu i amddiffyn pob cymuned rhag niwed difrifol.
“Dylai unrhyw un sy'n meddwl bod rhyddid ganddo i gyflawni trais o'r fath yn ardal Heddlu De Cymru feddwl ddwywaith. Ni chaiff ymddygiad o'r fath ei oddef ac rydym yn gobeithio bod yr ymgyrch ar y cyd hon gan wahanol heddluoedd yn cyfleu hynny'n glir.
“Hoffwn ddiolch i gymunedau lleol unwaith eto am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad wrth i'r arestiadau a'r chwiliadau fynd rhagddynt.”
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth sy'n ymwneud â'r hyn a ddigwyddodd ar 21 Mawrth, gan gynnwys deunydd fideo a deunydd camera dashfwrdd, gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *098726.
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]