Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhwng 1 Mai a 5 Medi, lleihaodd nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol nad oeddent yn ymwneud â COVID-19 o 597 o achosion i 315, er y nifer mawr o bobl a wnaeth ymweld â'r ardal.
Mae hyn yn deillio o waith Ymgyrch Elstree, sef ymgyrch amlasiantaethol sydd â'r nod o gadw ardaloedd arfordirol yn ddiogel a sicrhau eu bod yn ystyriol o deuluoedd.
Ar y cyd â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), Tân ac Achub De Cymru, awdurdodau lleol a busnesau, mae Ymgyrch Elstree wedi gweithio i gadw'r ardal yn ddiogel drwy ddarparu'r canlynol:
* Patrolau ychwanegol ar droed, ar gefn ceffyl, ar feic cwad ac yn ein cwch ymddygiad gwrthgymdeithasol
* Hysbysiadau Adran 35 i symud pobl ymlaen o ardal a fan CCTV
* Bandiau diogelwch i aduno plant coll â'u teuluoedd
* Dirwyon ar gyfer parcio anghyfreithlon.
Dywedodd Arabella Rees, Prif Arolygydd Bro Morgannwg a De Caerdydd:
“Fel rhan o Ymgyrch Elstree, treuliodd yr heddlu 1,000 o oriau ychwanegol ar batrôl ar droed ar hyd arfordir Caerdydd a Bro Morgannwg. Gwirfoddolwyr o'r Gwnstabliaeth Wirfoddol fu'n gyfrifol am fwy na chwarter o'r oriau hynny.
“Yn ystod y patrolau hyn rydym wedi arestio naw unigolyn ac atafaelu cyffuriau ac alcohol, sydd wedi helpu i sicrhau na fydd y math o ymddygiad gwrthgymdeithasol a welsom yn gynharach yn y flwyddyn a'r haf diwethaf yn digwydd eto.
“Un o uchafbwyntiau eraill Ymgyrch Elstree oedd aduno 34 o blant coll â'u rhieni ar y traeth. Gall colli golwg ar eich plant am ychydig eiliadau beri pryder mawr, felly rwy'n falch bod ein swyddogion wedi bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn yr haf hwn.
“Rydym wedi gweithio fel tîm i gyflawni hyn, ac yn gobeithio bod pawb a ymwelodd ag arfordir Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cael profiad cadarnhaol.”