Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 87 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd un cerbyd a ddigwyddodd tua 2.30 pm ddydd Llun 11 Hydref ym Mhontardawe wedi cael ei enwi fel Thomas Edward Thomas, yr oedd ei deulu yn ei alw yn ‘Eddie’.
Mae teulu Eddie wedi talu teyrnged iddo:
“Bu ‘Eddie y Cobler’ yn rhedeg siop trwsio esgidiau a thorri allweddi yng nghanolfan siopa Aberafan am y 43 mlynedd diwethaf, a bu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffordd un cerbyd.
“Mae'n gadael ei bartner gydol oes, Gwyneth Morgan, yr oedd yn dwli arni. Yn anffodus cafodd hi ei hanafu yn yr un gwrthdrawiad hefyd, ac ar hyn o bryd mae yn yr ysbyty yn cael triniaeth.
“Bydd ei lysfeibion Andrew ac Alistair, ei ŵyr Christian a'r teulu ehangach yn gweld ei eisiau yn fawr iawn.
“Roedd Eddie yn chwaraewr snwcer brwd a bydd yn cael ei gofio am y blynyddoedd y bu'n chwarae yn Top Club, Jubilee a Chlwb Gweithwyr Pontardawe.
“Dros y blynyddoedd mae wedi rhedeg siop cobler yn Nhreforys, lle y caiff ei gofio fel cymeriad a hanner yng nghanolfan siopa Aberafan. Roedd yn berson poblogaidd, ac mae'r teulu'n dweud y gellid ei glywed cyn ei weld.”
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn apelio ar unrhyw un sydd â fideo o gamera dashfwrdd o'r gwrthdrawiad i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad: *357217.
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffoniwch: 101