Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddlu yn ardaloedd gwledig Bro Morgannwg yn cymryd camau breision i fynd i'r afael â photswyr yn dilyn adroddiadau am droseddau gwledig yn ymwneud â hela anghyfreithlon gyda chŵn.
Mae troseddwyr yn cael mynediad i dir amaeth drwy dynnu neu ddifrodi gatiau mewn caeau er mwyn lampio a/neu hela ysgyfarnogod.
Mae hyn yn arwain at ddifrod i eiddo, gan gynnwys cnydau sy'n tyfu am fod pobl yn gyrru drostynt, ac mae'n caniatáu i wartheg a da byw eraill ddianc i'r briffordd gan beri risg i ddefnyddwyr y ffordd.
Mae'r gweithgarwch hwn yn mynd rhagddo liw nos, ac ymddengys fod tir amaeth rhwng y Wig a Southerndown yn darged penodol.
Dywedodd yr Arolygydd Mark Henderson, o Heddlu De Cymru:
“Rydym yn cynnal rhagor o batrolau yn yr ardal a, lle y bo'n briodol, byddwn yn stopio ac yn archwilio cerbydau a welir yn teithio ar y ffyrdd a'r lonydd yn ardaloedd gwledig Bro Morgannwg.
“Byddwn yn cymryd camau cadarnhaol i atal a chanfod y math hwn o drosedd sydd hefyd yn golygu bod anifeiliaid fferm yn crwydro ar y briffordd ac yn peri perygl i ddefnyddwyr ffyrdd eraill.
“Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael gwybod bod trosedd wedi digwydd – nid yn unig i gasglu tystiolaeth ffisegol, ond hefyd i gasglu gwybodaeth am batrymau troseddau o ran amser a daearyddiaeth er mwyn llywio ymchwiliadau. Mae'n hanfodol bod pobl yn rhoi gwybod am y digwyddiadau hyn er mwyn ein helpu i ganfod lle mae angen lleoli ein hadnoddau er mwyn cael yr effaith orau.”
Yn ddiweddar, cymerodd nifer o swyddogion o Heddlu De Cymru ran mewn cwrs “Ymwybyddiaeth o Ffermio”, a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cwrs hwn yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar swyddogion yr heddlu i fynd i ffermydd yn ystod eu dyletswyddau dyddiol, gyda'r hyder i ddeall ffermio ac, yn bwysig, beryglon yr amgylchedd gwaith gwledig.
Yn ystod y diwrnod, trafodwyd y mathau gwahanol o ffermydd a geir yng Nghymru a'r problemau gwirioneddol sy'n wynebu'r diwydiant, o effaith troseddau gwledig i reolau'r llywodraeth a thrwyddedau symud da byw.
Yn y prynhawn, cafodd y swyddogion gyfle i fynd yn agos at dda byw drwy helpu i gorlannu defaid, a gwnaethant ddysgu am y peryglon sy'n gysylltiedig â gweithio gyda gwartheg dan do ac yn yr awyr agored.
Roedd gwahanol fathau o beiriannau fferm ar yr agenda hefyd, ynghyd ag iechyd a diogelwch a'r hyn y dylid ei wneud i sicrhau bod cerbydau fferm yn ddiogel os bydd angen gwneud hynny mewn argyfwng.