Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 60 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd ychydig cyn 4.45 pm ddydd Gwener 1 Hydref ym Mhort Talbot wedi cael ei enwi fel Paul Watkins o Sandfields.
Mae ei deulu wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo yn dilyn eu colled drasig:
“Roedd Paul “Walter” Watkins yn ddyn teuluol ymroddedig ac mae’n gadael ei bartner Suzanne Rose, ei blant Rebecca, Robert, Olivia ac Ava, ei rieni Heather a Dennis, ei frawd Garry a'i chwaer Karen, ei dri o wyrion a'i nithod a'i neiod.
“Roedd yn fecanydd beic modur hoffus ac uchel ei barch, a bu’n feiciwr modur gydol ei oes.
“Gweithiodd yn Mount Motorcycles am sawl blwyddyn, a bu’n weithiwr ffyddlon a dibynadwy.
“Ganwyd Paul, a oedd yn 60 oed, yng Nghastell-nedd, a fe'i magwyd yn ardal Sgiwen, lle'r oedd yn adnabyddus iawn. Symudodd Paul i ardal Sandfields, lle bu'n byw gyda'i bartner a dau o blant.
“Cafodd ei ddisgrifio gan ei ffrindiau fel dyn ysbrydoledig ac fel arwr; ef oedd y mecanydd beic modur a’r ffrind gorau y gallwn fod wedi ei gael.
“Bydd yn ein calonnau o hyd a chaiff ei gofio am byth. Ni allwn ddisgrifio’r golled y mae ein teulu yn ei theimlo ar hyn o bryd.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng cylchfannau Afan Way a Pharc Ynni Baglan ar yr A4241 Port Talbot.
Roedd y ffordd ar gau am sawl awr yn dilyn y digwyddiad, a hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn apelio ar unrhyw un a fu'n dyst neu sydd â fideo o gamera dashfwrdd o'r gwrthdrawiad i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad: 2100345582.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffoniwch: 101