Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dangoswyd rȏl yr heddlu mewn diogelu plant a phobl ifainc yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd mewn digwyddiad i ddathlu gwaith Rhaglen Ysgolion Heddluoedd Cymru, sydd newydd ei ailenwi. Roedd ffocws y digwyddiad ar y disgyblion, ac ar roi cyfle iddynt ddarganfod am ran arwyddocaol y rhaglen mewn cefnogi eu diogelwch ac wrth edrych tua’r dyfodol wedi’r pandemig.
Fe wnaeth athrawon a disgyblion gyfarfod ȃ Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro (Heddlu Dyfed-Powys), a Lyn Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles – a rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddisgyblion holi’r cynrychiolwyr hyn am bob agwedd o’r rhaglen.
Yn dilyn adolygiad gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu, Prif Gwnstabliaid a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â phrif athrawon, disgyblion a rhieni ar draws Cymru, mae’r Rhaglen Ysgolion Heddluoedd Cymru sydd wedi ei adfywio yn arddangos ymrwymiad anferth i blant a phobl ifainc - wedi’i hybu gan y cadarnhad y byddai’r cyllido ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Heddlu ar draws Cymru o bron £2 filiwn yn parhau. Y mae’n enghraifft o waith partneriaeth llwyddiannus rhwng Llywodraeth Cymru a’r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru, lle’r nod yw diogelu plant Cymru drwy addysg atal trosedd.
Mae’r rhaglen yn defnyddio cyfres o fewnbynnau a chyflwyniadau yn y dosbarth ond hefyd yn cefnogi’r gymuned ysgol gyfan, gyda’r bwriad o:
Wrth i newidiadau ymddangos yn yr amgylchedd ehangach o drosedd a’r bygythiadau sy’n wynebu pobl ifainc, mae angen i’r swyddogion sydd ar secondiad i ysgolion fod yn ystwyth a hyblyg, felly cytunodd Comisiynwyr a Phrif Gwnstabliaid ar newid o ddull seiliedig ar wersi yn unig i un ‘ysgol gyfan’, gyda rȏl bugeiliol ehangach gyfer y Swyddogion Heddlu Ysgolion sydd wedi ei addasu i anghenion penodol ysgolion neu unedau arbennig.
Mae ciplun o lwyddiant y rhaglen rhwng Medi 2020 a Gorffennaf 2021 yn cynnwys y canlynol:
Dywedodd Faith McCready, Cydlynydd Cenedlaethol Rhaglen Ysgolion Heddluoedd Cymru: “Mae’n fraint gennym weithio gyda phob ysgol yng Nghymru sy’n ein gwahodd i gyflwyno sesiynau am bynciau hollbwysig sy’n effeithio ar blant a phobl ifainc. Yr ydym yn awyddus i les pobl ifainc fod yn ganolog i’n gwaith, a’u bod yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chyfrannu at y Rhaglen, fel y gwnaethant yn y digwyddiad hwn yn Ysgol Uwchradd Fitzalan.”
Fel rhan o’r adolygiad, yr oedd yn amlwg iawn bod cefnogaeth gref i’r rhaglen, yn enwedig gan brif athrawon a’r plant eu hunain. Amlinellodd un prifathro sut y byddai’n cael trafferth dod o hyd i’r arbenigedd neu’r hygrededd gwasanaeth y mae’r rôl Swyddog Heddlu Ysgolion yn cynnig, ac ni fyddent yn medru cynnal y gwasanaeth cymwys neu effeithiol y mae’r rhaglen yn darparu ar gyfer plant a phobl ifainc ar adeg hollbwysig yn eu datblygiad fel oedolion ifainc. Mae’r ffaith bod swyddogion heddlu’n cael eu croesawu’n rheolaidd ac yn cael eu clywed a’u cynnwys yn addysg pob plentyn o ddosbarth derbyn i flwyddyn 13 yn rhan hanfodol o brofiad addysgol plant.
Canfu arolwg a anfonwyd at ysgolion ar draws y pedwar ardal heddlu bod 64% o’r 561 plentyn a ymatebodd yn teimlo bod Swyddogion Heddlu Ysgolion wedi newid eu barn am yr Heddlu er gwell, a bod 74% yn teimlo eu bod nhw’n medru siarad â’u Swyddog Heddlu Ysgolion pe bai angen cymorth neu arweiniad arnynt ynghylch unrhyw broblemau y gallant fod yn eu profi.
Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles:
“Fel llywodraeth, yr ydym eisiau i bob plentyn ac unigolyn ifanc dyfu i fyny’n iach, diogel a hapus. Mae Rhaglen Ysgolion Heddluoedd Cymru’n helpu i addysgu plant mewn modd diogel a diddorol am faterion pwysig. Mae’n rhoi gollyngfa iddynt fynegi eu barn am bynciau sy’n medru effeithio ar ein bywydau. Mae’r rhaglen yn darparu dysgu diddorol wedi’i deilwra ar gyfer grwpiau blwyddyn ysgol, ac mae’n dda gennyf fod yn bresennol yn y digwyddiad heddiw a gweld sut mae pobl ifainc yn cymryd rhan yn y rhaglen â’m llygaid fy hun.”
Ychwanegodd Alun Michael Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru:
“Roedd yn bleser i fedru ymuno ȃ disgyblion a phartneriaid, yn cynnwys Gweinidog o Lywodraeth Cymru, i ddathlu Rhaglen Ysgolion Heddluoedd Cymru ac i gydnabod ei gyfraniad i wella diogelwch a chydnerth cymunedau ar draws Cymru.
“Rwy’n neilltuol o falch dewisiwyd Ysgol Uwchradd Fitzalan fel lleoliad i’r dathliad yma; mae’n ysgol mae gennyf barch mawr iddi, ar ôl gwasanaethu o fewn y cymunedau lleol fel eu AS am 25 mlynedd a nawr fel eu Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Wrth osod allan ei egwyddorion am blismona, dywedodd Syr Robert Peel ‘yr heddlu yw’r cyhoedd a’r cyhoedd yw’r heddlu’; mae hyn yn golygu fod yn rhaid i’r heddlu fod wedi eu mewnblannu yn ac yn adlewyrchu eu cymuned i fod yn rhan ohono fe. Dyna pam mae mor bwysig cael swyddogion mewn ysgolion, oherwydd mae bob ysgol yn gymuned ynddo’i hun, ac yn eistedd wrth galon bob cymuned. Roeddwn yn credu hyn yn angerddol pan oeddwn yn weithiwr ieuenctid, yn ymgysylltu ȃ ysgolion ar draws Caerdydd. Mae cael swyddog yn gwario amser ym mhob ysgol, yn ymgysylltu ȃ phobl ifainc ac yn cyflwyno negeseuon atal wedi eu teilwra ac sy’n adlewyrchu materion lleol yn hanfodol i leihau trosedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol, tra’n cryfhau perthnasau rhwng yr heddlu a chymunedau.”
Dywedodd Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys:
“Roedd yn dda iawn gennyf fod yn y digwyddiad i ddathlu Rhaglen Ysgolion Cymru Gyfan, sy’n enghraifft ardderchog o waith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru, a’n partneriaid yn y maes addysg ledled y rhanbarth yn fy marn i.
“Mae’r rhaglen hon yn darparu gwasanaeth cofleidiol i ysgolion yng Nghymru, gan gynnig gwasanaethau plismona cefnogol, addysg ac atal trosedd i’n pobl ifainc.
“Mae ein Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion wedi’u hyfforddi i gyflwyno gwersi ar themâu cyfredol sy’n medru effeithio ar fywydau ein pobl ifainc megis camddefnyddio sylweddau, diogelwch personol, a sut y gall pobl ifainc ddiogelu eu hunain ar-lein a thrwy eu ffonau symudol ymhellach. Yn ogystal â’u hyfforddiant proffesiynol fel Swyddogion Heddlu, mae ein Swyddogion Ysgol yn cefnogi ysgolion mewn sawl ffordd drwy blismona cefnogol, gan ddefnyddio Polisi Trechu Trosedd yr ysgol ar gyfer ymdrin â digwyddiadau a chynnig datrysiadau adferol, gan gynnwys cynadledda adferol, pan fod angen.
“Yr wyf yn ddiolchgar i’n partneriaid am eu cymorth parhaus yn y maes plismona hollbwysig hwn.”
Yn y digwyddiad, holodd disgyblion ambell gwestiwn treiddgar i’r panel, a chafwyd trafodaeth fywiog a gwybodus mewn ymateb i’r cwestiynau hynny.
Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:
“Rwy’n hoff iawn o’r rhaglen, ac wedi gwylio sawl gwers dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a chymryd rhan ynddynt. Mae Rhaglen Ysgolion Cymru Gyfan yn darparu cefnogaeth bwysig iawn i’n plant a’n pobl ifainc a’u hysgolion, a bydd yn parhau i wneud hynny, yn arbennig â’r cwricwlwm newydd.
“Yn bennaf oll (ac mae hyn yn agos iawn i’m calon), mae’r rhaglen a’r swyddogion sy’n ei chyflwyno’n ymgysylltu â phlant a phobl ifainc er mwyn sicrhau bod plant yn ymwybodol ohoni ac yn derbyn eu holl hawliau dynol mewn ysgolion ac yn cael eu cefnogi.
“Da iawn bawb sy’n gysylltiedig â’r rhaglen. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld rhai o’r adnoddau ac yn parhau i ddilyn eich gwaith ardderchog drwy Gymru.”