Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfaddefodd dyn yn ei ugeiniau hwyr iddo achosi difrod i eiddo yn Stryd Glyn Mynach, Ynys-y-bwl ar 29 Mai.
Ymddiheurodd a chynigiodd dalu am unrhyw ddifrod a achoswyd.
Ymdriniwyd â'r mater drwy Ddatrysiad Cymunedol, sef Gorchymyn Datrysiadau y tu allan i'r Llys.
Dywedodd y Prif Arolygydd Anthony Moyle:
“Cyfaddefodd dyn yn ei ugeiniau hwyr iddo achosi difrod i eiddo yn Stryd Glyn Mynach yn dilyn digwyddiad yn Ynys-y-bwl ar 29 Mai.
“Ymddiheurodd yr unigolyn, talodd am y difrod a achoswyd ac ymdriniwyd â'r mater drwy Ddatrysiad Cymunedol sef Gorchymyn Datrysiadau y tu allan i'r Llys – dull gweithredu y cytunodd y dioddefwr arno ar adeg y digwyddiad.
“Mae datrysiadau cymunedol yn gyfle i'r heddlu ddelio â throseddau priodol y mae unigolyn yn derbyn cyfrifoldeb llawn amdanynt, ac maent yn gyson â pholisïau a chanllawiau cenedlaethol.
“Yn dilyn y digwyddiad, deuthum yn ymwybodol nad oedd y dioddefwr yn fodlon, felly aeth y dyn i orsaf yr heddlu o'i wirfodd ar ôl y digwyddiad a gwnaethpwyd y penderfyniad i atgyfeirio'r unigolyn at gynllun Drws Troi (Revolving Door) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn gymryd rhan mewn sesiynau myfyriol sy'n canolbwyntio ar ymddygiad.
“Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn cwyn gan y dioddefwr ers hynny. Rydym wrthi'n ymchwilio i'r gŵyn honno ac ni allwn wneud unrhyw sylwadau pellach nes y bydd y broses hon wedi'i chwblhau.
“Ond mae'n amlwg bod agweddau ar yr ymchwiliad nad ydynt yn bodloni disgwyliadau'r dioddefwr yn llawn a byddwn yn gweithio gyda hi i fynd i'r afael â'i phryderon a rhoi cyd-destun pellach o ran y camau a gymerwyd gan swyddogion a'r dull adferol a fabwysiadwyd.
“Byddwn yn mynd i'r afael ag unrhyw beth nad yw'n cyrraedd y safonau uchel rydym yn eu disgwyl gan swyddogion, a chaiff unrhyw wersi a all helpu i wella'r gwasanaeth a ddarperir gennym eu rhoi ar waith.
“Caiff ein canfyddiadau eu rhannu'n uniongyrchol â'r achwynydd maes o law.”