Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol bod y cyhoedd yn pryderu ynghylch achosion o sbeicio mewn trefi a dinasoedd ledled y DU. Ystyr sbeicio yw pan gaiff alcohol neu gyffuriau eu rhoi yn niod rhywun heb yn wybod iddo a heb iddo roi ei ganiatâd. Mae pryder hefyd y gall fod pobl yn cael eu ‘sbeicio’ drwy ddefnyddio nodwyddau neu chwistrellau sy'n cynnwys cyffuriau.
Rydym wedi clywed gan nifer bach o bobl sy'n credu y gallai hyn fod wedi digwydd iddynt ac rydym wrthi'n ymchwilio i'r achosion hyn.
Mae ein swyddogion yn gweithio gyda safleoedd trwyddedig i'w rhybuddio o'r dulliau a ddefnyddir i sbeicio a gofyn iddynt fod yn arbennig o wyliadwrus yn ystod y cyfnod hwn.
Rydym yn cymryd pob achos o ddifrif ac rydym yn annog unrhyw un sy'n credu eu bod wedi cael eu sbeicio mewn unrhyw ffordd i gysylltu â ni.
Mae gan Heddlu De Cymru hanes gwych o weithio mewn partneriaeth ac rydym yn rhoi hyfforddiant i staff mewn safleoedd trwyddedig canol dinas i'w helpu i nodi a diogelu pobl sy'n agored i niwed ac rydym yn gweld enghreifftiau o adegau y bydd hyn wedi talu'i ffordd yn rheolaidd.
Mae gwefan Talk to Frank a ariennir gan y Llywodraeth wedi cyhoeddi cyngor a chanllawiau ar sbeicio diodydd Spiking – top tips to stay safe | FRANK (talktofrank.com)