Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru a Rhwydwaith LHDTC+ HDC wedi lansio partneriaeth sydd â'r nod o annog aelodau o'r gymuned LHDTC+ i roi gwybod am droseddau casineb.
Mae'r cynllun yn dod â Heddlu De Cymru a lleoliadau LHDTC+ yng Nghaerdydd ynghyd i fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â throseddau casineb a sicrhau bod y gymuned yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Mae Mary’s, Pulse, The Kings, The Golden Cross, Main Stage ac Eagle wedi cofrestru i gynnal Paned gyda Phlismon, lle y gall pobl gael sgwrs gyfeillgar ag un o swyddogion Heddlu De Cymru a rhoi gwybod am unrhyw faterion a all fod ganddynt.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason Rees:
“Mae cyfraddau adrodd yn codi ond maent yn dal i fod yn isel. Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ac annog dioddefwyr a thystion i gysylltu â ni.
“Mae fy nghydweithwyr a minnau yma ac yn barod i siarad, gwrando ac ymateb i bryderon ac anghenion y gymuned.”
Cynllun peilot yw hwn fel rhan o economi liw nos cymuned LHDTC+ Caerdydd, ond mae'r tîm sy'n gyfrifol amdano yn awyddus i'w ehangu ledled de Cymru ac i leoliadau eraill.
Meddai'r Uwch-arolygydd Jason Rees, sef yr Arweinydd Gweithredol ar gyfer Troseddau Casineb:
“Drwy greu'r bartneriaeth hon, rydym yn gobeithio ein bod yn dangos i aelodau'r gymuned ein bod yma i helpu i'w cadw'n ddiogel ac i ddelio ag unrhyw faterion a all fod ganddynt. Drwy'r bartneriaeth hon, rydym yn gobeithio y gallwn groesawu mwy o fusnesau a chlybiau LHDTC+ i gydweithio â ni.”
Dywedodd Haydn Price, perchennog y bar Eagle:
“Mae partneriaeth fel hon yn fenter bwysig a synhwyrol iawn. Mae ein cwsmeriaid yn siarad â ni am yr hyn sy'n digwydd; rydym yn far bach a chyfeillgar, ond weithiau maen nhw'n rhy ofnus i siarad.
“Beth bynnag fo'u rhywioldeb neu gefndir, rydym am i bawb deimlo'n hapus ac yn ddiogel i ddod yma, cymysgu â swyddogion sy'n rhan o'r bartneriaeth, a siarad yn rhydd heb unrhyw bryderon.
“Byddwn yn postio am y sesiwn Paned gyda Phlismon ar ein cyfryngau cymdeithasol fel bod pobl yn gwybod ble i ddod ac yn teimlo'n hapus i wneud hynny.”
Caiff gwybodaeth am y sesiynau Paned gyda Phlismon ei phostio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Heddlu De Cymru, yn ogystal â chyfrifon y lleoliad perthnasol. Maent yn agored i unrhyw un sydd am gael sgwrs.
Mae lansiad y bartneriaeth yn cyd-daro ag Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ar 13 Hydref. Am ragor o wybodaeth, ewch i/cysylltwch â: www.stophateuk.org/hate-crime-awareness-week/