Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw ar ôl iddo gael ei drywanu ar Hansen Street, Butetown, Caerdydd, ddydd Mawrth 23 Tachwedd wedi cael ei enwi fel Jordan Cody-Foster.
Dywed ei deulu ei fod yn cael ei garu'n fawr a bod ei farwolaeth yn ergyd drom iddynt.
Mae Steven White, 44 oed, a gafodd ei arestio yn y Sblot, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth a disgwylir iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yfory (dydd Iau, 25 Tachwedd).
Mae teulu Mr Cody-Foster, sy'n parhau i gael cefnogaeth a'r wybodaeth ddiweddaraf gan swyddogion cyswllt â theuluoedd, wedi rhyddhau'r datganiad canlynol:
“Mae llofruddiaeth sydyn a chreulon ein mab, nai, cefnder, brawd a thad wedi bod yn ergyd drom i ni. Roedd yn cael ei garu'n fawr gan bawb.
“Roedd blynyddoedd cynnar Jordan yn llawn cariad a gobaith, ac roedd yn mwynhau cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon.
“Rydym hefyd yn gweddïo ar i Dduw ein cynnal a'n cysuro ni a ffrindiau Jordan ar yr adeg anodd iawn hwn. Rydym hefyd yn gofyn i'r rhai a oedd yn ei adnabod beidio â chymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain er cof amdano.”
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Hansen Street yn fuan ar ôl 9am ddydd Mawrth yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i drywanu.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys a staff o Ganolfan Huggard gerllaw, bu farw Jordan Cody-Foster o'i anafiadau.
Er nad yw ditectifs yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'i farwolaeth, mae ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, yr Uwch-swyddog Ymchwilio: “Rydym yn meddwl am ffrindiau a theulu Jordan sydd wedi'u llorio'n llwyr gan ei farwolaeth.
“Yn ddealladwy, mae ei farwolaeth hefyd wedi bod yn sioc i'r gymuned, yn enwedig i'r rhai sy'n gweithio ac yn byw yng Nghanolfan Huggard gerllaw, a hoffwn ddiolch iddynt am yr help maent wedi'i roi i ymchwiliad yr heddlu.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl wybodaeth sydd wedi dod i law a byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.”
Cysylltwch â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *410667.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw i Taclo'r Tacle drwy ffonio 0800 555 111.