Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ruth Dodsworth yn annog eraill i roi gwybod am achosion o drais a cham-drin domestig.
Yr wythnos hon yw Wythnos Diogelu Genedlaethol a'r thema eleni yw diogelu ein cymunedau. Gall pob un ohonom fod yn agored i gamdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio.
Mae a wnelo diogelu ag amddiffyn ein hunain a'r rhai yn ein cymuned a'u galluogi i fyw'n ddiogel rhag niwed.
Gan weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg a Byrddau Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, bydd swyddogion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau er mwyn addysgu a chodi ymwybyddiaeth o faterion diogelu.
Trais a cham-drin domestig sy'n cyfrif am y nifer mwyaf o achosion diogelu y rhoddir gwybod i Heddlu De Cymru amdanynt ac mae traean o'r holl droseddau treisgar yn rhai domestig. Bob 15 munud, mae'r Heddlu yn cael galwad ffôn sy'n ymwneud ag achos o gam-drin domestig.
Yn gynharach eleni, dedfrydwyd cyn-ŵr Ruth Dodsworth, cyflwynydd ar ITV Wales, i dair blynedd yn y carchar am reolaeth drwy orfodaeth a stelcio.
Dywedodd Ruth, “Sylweddolais ei fod yn eithaf anwadal yn gynnar iawn ond roedd y berthynas yn un newydd, gallwch faddau rhai pethau, rydych yn meddwl ‘iawn bydd pethau yn gwella fory’.
“Cefais fy ynysu fwyfwy oddi wrth fy ffrindiau a'm teulu ond mewn ffordd ryfedd, roedd hynny wedi gwneud pethau yn anoddach gan mai ef oedd canolbwynt fy myd, doedd gennyf ddim byd arall mewn ffordd.
“Rwy'n gwybod i sicrwydd, petaswn i wedi aros, y byddwn wedi marw erbyn hyn ac, felly, gwnaeth gofyn am help achub fy mywyd.”
Dywedodd y Prif Arolygydd Eve Davis, arweinydd yr heddlu ar gyfer cam-drin a thrais domestig, “Mae cam-drin a thrais domestig yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru. Gall effeithio ar unrhyw un ac, yn ogystal â chael effeithiau dinistriol ar y rhai sy'n dioddef y gamdriniaeth yn uniongyrchol, gall effeithio ar eraill megis plant, aelodau o'r teulu estynedig, ffrindiau a'r gymuned hefyd.
Byddwn yn annog unrhyw un sy'n dioddef camdriniaeth neu sydd wedi'i goroesi i ffonio am gymorth, ac os ydych yn pryderu am rywun rydych yn ei adnabod gallwch hefyd ffonio ar ei ran.
Mae Heddlu De Cymru yn gweithio gyda nifer o asiantaethau partner i gefnogi'r rhai sy'n dioddef, neu sydd wedi goroesi, camdriniaeth neu drais domestig ac os oes pobl nad ydynt am roi gwybod am achos yn uniongyrchol i'r heddlu, ystyriwch gysylltu â Byw Heb Ofn.”
Os ydych yn pryderu am rywun rydych yn ei adnabod, gallai'r dolenni canlynol i gyngor a gwybodaeth am amrywiaeth o faterion diogelu fod yn ddefnyddiol:
Cam-drin Domestig: Cyngor ar gam-drin domestig | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Stelcio ac Aflonyddu: Stelcio ac aflonyddu | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Cam-drin Plant: Cyngor ar gam-drin plant | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Byw Heb Ofn: Llinell gymorth Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU