Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:46 16/11/2021
Cafodd dyn 55 oed o Gaerffili a oedd yn cael trawiad ar y galon yn Nantgarw ei achub gan ymateb cyflym swyddogion Heddlu De Cymru.
Roedd swyddog plismona'r ffyrdd PC Saunders yn cael tanwydd i'w gar pan ddaeth menyw ato yn dweud ei bod yn credu bod ei gŵr yn cael trawiad ar y galon.
Nododd PC Saunders yn gyflym ei bod hi'n edrych yn debyg ei fod yn cael trawiad ar y galon. Ymunodd swyddogion plismona'r ffyrdd PC Thomas, PC Bailey a PS Hobrough ag ef, ac roedd ganddynt ddiffibriliwr.
Penderfynodd PS Hobrough fynd â'r dyn i'r ysbyty yng nghar yr heddlu gan fod ei gyflwr yn dirywio'n gyflym. Peidiodd y dyn ag anadlu pan oeddent yn paratoi i wneud hyn.
Defnyddiwyd y diffibriliwr ar unwaith a dechreuodd PC Bailey a PC Thomas roi CPR iddo, a diolch byth daeth ato'i hun a dechrau anadlu eto.
Cyrhaeddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a wnaeth gadarnhau bod y dyn yn cael trawiad ar y galon.
Cludwyd ef i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael llawdriniaeth frys ar ei galon.
Dywedodd y Prif Arolygydd Gareth Morgan:
“Yn y pen draw, o ganlyniad i ymyrraeth gynnar ac ymateb cyflym y swyddogion hyn cafodd bywyd y gŵr hwn ei achub.
“Rwy'n teimlo'n falch iawn bod swyddogion fel PS Hobrough, PC Saunders, PC Bailey a PC Thomas yn ein plith.
“Heb eu gweithredoedd, eu proffesiynoldeb a'u dewrder nhw, gallai ffawd y dyn hwn a'i deulu fod wedi bod yn wahanol iawn.
“Gwellhad buan a dymuniadau gorau iddo.”
Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:
“Pan fydd rhywun yn cael trawiad ar y galon, mae pob eiliad yn cyfrif.
“Gall CPR cynnar ac effeithiol a sioc drydan wedi'i rheoli gyda diffibriliwr gynyddu siawns rhywun o oroesi yn sylweddol, ac rydym yn annog pawb i ddysgu'r sgìl hwn sy'n achub bywydau.
“Gallai hon fod wedi bod yn stori wahanol iawn heb ymateb cyflym PS Hobrough, PC Saunders, PC Bailey a PC Thomas – maent yn haeddu pob clod.”