Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae un o swyddogion Heddlu De Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog o'r elusen diogelwch ar y ffyrdd Brake am ei waith fel swyddog cyswllt teuluol, ar ôl cael ei enwebu gan aelodau'r teulu yr oedd yn eu cefnogi.
Cafodd y Rhingyll Darren Westall, o Uned Plismona'r Ffyrdd yr heddlu, ei enwebu gan deulu Ryan Hamer, a oedd yn 20 oed, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad car yr oedd yn teithio ynddo ym mis Ebrill 2019.
Mae mam Ryan, Cerys, a'i frawd, Mitch, wedi siarad am eu profiad ac annog gyrwyr i yrru'n ofalus ar y ffyrdd.
Maent hefyd wedi canmol y Rhingyll Westall, eu swyddog cyswllt teuluol, am y cymorth a roddodd iddynt yn ystod y broses gyfreithiol ddilynol.
Dywedodd Brake fod aelodau'r teulu wedi canmol ymdrechion diflino’r Rhingyll Westall i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth yr oedd eu hangen arnynt, a diolch iddo am fod yn ffynhonnell werthfawr o gysur yn ystod y cwest a'r achos llys.
Cyhoeddodd Brake enillwyr gwobrau eleni mewn seremoni ar-lein ddydd Mercher.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason James, pennaeth ymgyrchoedd arbenigol yn Heddlu De Cymru:
“Mae gan swyddogion cyswllt teuluol rôl hynod bwysig a gallant fod yn gymorth mawr i deulu sy'n dod i delerau â'r hyn sy'n aml yn amgylchiadau hynod anodd. Rwy'n gwybod faint mae'r teuluoedd hynny yn gwerthfawrogi'r empathi a'r cymorth y maent yn eu dangos.
“Yn yr achos hwn, mae'n amlwg bod y cymorth a roddwyd i deulu Ryan gan Darren wedi cael ei werthfawrogi'n fawr iawn. Mae'n hael iawn i deulu Ryan enwebu Darren ar gyfer y wobr hon, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am wneud hynny, ac i Darren am y tosturi mae wedi'i ddangos.
“Rwy'n meddwl am aelodau teulu Ryan ac yn cydymdeimlo â nhw, ac rwyf wir yn gobeithio y bydd eu dewrder wrth siarad allan yn annog unrhyw yrwyr i sicrhau eu bod yn gyrru'n ddiogel.”
Dywedodd Tracey Lister, pennaeth Gwasanaeth Cenedlaethol i Ddioddefwyr Ffyrdd yr elusen Brake:
“Mae pawb a gafodd eu henwebu ar gyfer Gwobrau Swyddog Cyswllt Teuluol Brake 2021 yn haeddu canmoliaeth enfawr, a diolch iddynt am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf mewn amgylchiadau hynod o heriol. Mae'r tri enillydd i gyd wedi dangos gofal ac ymrwymiad rhagorol wrth helpu teuluoedd mewn profedigaeth ac rydym yn ddiolchgar am bopeth maent wedi'i wneud.”
Dywedodd y Rhingyll Tim MacAleenan, Arweinydd Cyswllt Teuluol Plismona'r Ffyrdd Cenedlaethol:
“Gall fod yn swyddog cyswllt teuluol fod yn un o'r rolau mwyaf heriol yng ngwasanaeth yr heddlu, ac mae'n rôl wirfoddol o ganlyniad i'r galw y mae'n ei roi ar unigolion.”