Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyhuddwyd Jake Evans-Hodgeson, 23 oed, o Abertawe, o dreisio ac fe'i dedfrydwyd yn Llys y Goron Abertawe heddiw (19 Tachwedd). Fe'i cafwyd yn euog gan reithgor mewn gwrandawiad cynharach. Clywodd y llys i'r drosedd ddigwydd ym mis Medi 2020 yn Abertawe.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Emma Robbins, swyddog yn yr achos:
"Hoffwn ganmol y dioddefwr am ddangos cryfder a dewrder drwy gydol yr ymchwiliad hwn, er mwyn sicrhau bod Hodgeson yn cael ei ddwyn o flaen ei well.
"Gobeithio bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o gysur i'r dioddefwr ac y bydd yn ceisio symud ymlaen â'i bywyd.
"Ni allaf ddychmygu pa mor anodd yw cysylltu â'r heddlu i roi gwybod am achosion o gam-drin rhywiol ond hoffwn sicrhau pawb sy'n ystyried gwneud hynny bod amrywiaeth lawn o gymorth ar gael iddynt, nid yn unig gan yr heddlu ond gan asiantaethau partner a all eich helpu drwy'r broses gyfan."
Gellir rhoi gwybod am achosion o gam-drin rhywiol drwy'r dulliau canlynol:
Ewch i: https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffoniwch: 101
Taclo'r Tacle yn ddienw, ar 0800 555 111.
Fel arall, gellir gofyn i Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) am help, cyngor a chymorth. Ewch i http://www.newpathways.org.uk/ neu https://cavuhb.nhs.wales/our-services/sexual-health/services-provided/ynys-saff-sexual-assault-referral-centre/ neu ffoniwch 02920 335795.