Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyn gêm ryngwladol nesaf Cymru ddydd Sul, mae Heddlu De Cymru wedi rhybuddio unrhyw un sy'n ystyried ailadrodd gweithredoedd dyn a aeth ar y cae yn Stadiwm Principality.
Mae swyddogion wedi cwestiynu sy’n 28 oed ar ôl iddo fynd ar y cae chwarae yn ystod y gêm Cymru yn erbyn De Affrica nos Sadwrn.
Mae'r dyn eisoes wedi cael ei wahardd am oes rhag prynu tocynnau gan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer digwyddiadau rygbi a gynhelir yn Stadiwm Principality yn y dyfodol ac mae bellach wedi cytuno i ddatrysiad cymunedol ar ôl mynd i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd fore dydd Gwener, y bydd rhaid iddo gydymffurfio ag ef neu bydd yn wynebu risg o erlyniad.
Defnyddir datrysiad cymunedol pan fydd troseddwr yn derbyn cyfrifoldeb am ei weithredoedd ac mae'n ddull o ymdrin â throseddau lefel is mewn ffordd sy'n gymesur.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Travis:
“Gwnaethom weithio gyda'r stadiwm i adnabod yr unigolyn a gweithredwyd yn ddi-oed eisoes i'w wahardd rhag prynu tocynnau ar gyfer unrhyw gemau rygbi yn y dyfodol yn y lleoliad. Mae'r heddlu wedi cwestiynu'r dyn ac ymdriniwyd ag ef yn gymesur.
“Mae Caerdydd wedi ennill enw da am fod yn un o'r lleoliadau gorau yn y byd am gynnal digwyddiadau mawr ac rydym yn falch o chwarae ein rhan i gadw ymwelwyr â'r ddinas yn ddiogel. Nid oedd yr hyn a welsom ddydd Sadwrn diwethaf mewn gêm rygbi ryngwladol fawr yn dderbyniol ac ni chaiff ei oddef.”