Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd rhan mewn cynllun peilot a fydd yn gweld swyddogion yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot yn cario Naloxone trwynol (Nyxoid).
Mae Naloxone yn wrthgyffur brys ar gyfer achosion o orddos a achosir gan heroin a sylweddau opiadau neu opioidau eraill megis methadon, morffin a ffentanyl. Mae'n gweithio drwy wrthdroi'r anawsterau anadlu y gall gorddos o'r sylweddau hyn eu hachosi, er mwyn ennill amser cyn i ambiwlans gyrraedd.
Mae nifer y bobl sydd wedi marw yng Nghymru o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau wedi cynyddu 84% dros y deg mlynedd diwethaf, o 39.2 fesul miliwn yn 2008 i 72.0 fesul miliwn yn 2018.
Mae'r ffigurau hyn, a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn dangos mai Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r ail gyfraddau uchaf am farwolaethau yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr yn 2018.
Os bydd swyddog yr heddlu yn rhoi'r cyffur yn llwyddiannus, yna bydd y derbynnydd yn cael ei atgyfeirio at gronfa ddata Lleihau Niwed, er mwyn sicrhau ei fod yn cael cymorth diogelu ac allgymorth priodol.
Mae gan Heddlu De Cymru dros 50 o swyddogion yr heddlu bellach sydd wedi gwirfoddoli i gario Naloxone trwynol pan fyddant ar ddyletswydd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Morgan:
“Er mai rôl sylfaenol yr heddlu o ran defnyddio a chyflenwi cyffuriau yw gorfodi yn draddodiadol, rydym yn cydweithio'n agos â phartneriaid i leihau'r galw am gyffuriau a rheoleiddir ac i atal pobl rhag cymryd sylweddau mor niweidiol yn y lle cyntaf.
“Drwy gario Naloxone trwynol, bydd adnodd lleihau niwed hanfodol ar gael i swyddogion sy'n gallu atal marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau a'r effeithiau canlyniadol y mae hyn yn eu cael ar deuluoedd a chymunedau.
“Os gallwn achub bywyd un person, bydd yn ein galluogi i'w atgyfeirio at ein partneriaid i gael triniaeth ac ymyrraeth, gan roi cyfle iddo ailadeiladu ei fywyd.”
Dywedodd Matthew Rafferty, Arweinydd Lleihau Niwed ar gyfer Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin:
“Rwy'n falch iawn o weld y bydd gan swyddogion yr heddlu y gallu i gario a rhoi Naloxone. Bydd hyn yn achub bywydau ac yn helpu i leihau'r nifer mawr iawn o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau a welwn yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Pan fydd swyddogion yn rhoi Naloxone, byddant yn achub bywydau ond hefyd yn ennill amser gwerthfawr er mwyn i wasanaethau trin ymgysylltu â'r unigolyn a rhoi'r gofal dilynol.
“Mae Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin yn ddiolchgar i Heddlu De Cymru. Mae hwn wir yn gam enfawr tuag at leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau sy'n effeithio ar bobl a chymunedau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.”