Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyffuriau gwerth mwy na £3.5m a 84 o arfau wedi'u hatafaelu'n ddiweddar gan dimau plismona sy'n mynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll yn Ne Cymru.
Datgelir y ffigurau diweddaraf hyn wrth i Heddlu De Cymru ymuno â heddluoedd ledled y DU yn Ymgyrch Sceptre – sef wythnos genedlaethol o weithredu i fynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll.
Cynhelir wythnos Ymgyrch Sceptre rhwng dydd Llun 15 Tachwedd a dydd Sul 21 Tachwedd 2021.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones, Arweinydd yr Heddlu ar gyfer Trais Difrifol:
“Mae nifer y troseddau'n ymwneud â chyllyll yn y DU wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac, yn anffodus, nid yw De Cymru yn wahanol i unrhyw le arall yn hynny o beth.
“Ond mae De Cymru yn dal i fod yn lle diogel, mae mynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll yn flaenoriaeth i'r heddlu ac rydym yn parhau i weld canlyniadau cadarnhaol.”
Mae dau dîm o Heddlu De Cymru yn cymryd rhan yn Ymgyrch Sceptre, gyda'r naill yn gyfrifol am Gaerdydd a Bro Morgannwg a'r llall yn gyfrifol am Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae'r tîm, sy'n cynnwys swyddogion gwelededd uchel a chudd, ar y strydoedd ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos, yn cadw llygad barcud ar unrhyw un sy'n cyfateb i broffil y rhai sy'n cymryd rhan mewn troseddau'n ymwneud â chyllyll.
Ers mis Ebrill, mae'r timau wedi:
* canfod gwerth £3.7m o gyffuriau a gwerth £157,000 o arian parod.
* arestio 284 o bobl
* atafaelu 84 o arfau
* stopio a chwilio 1,143 o weithiau.
Mae'r arfau y mae tîm Ymgyrch Sceptre yn eu hatafaelu'n rheolaidd yn ein hatgoffa o'r trais sy'n gysylltiedig â'r fasnach mewn cyffuriau.
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones:
“Mae timau Ymgyrch Sceptre yn ymlid y rhai sy'n ymwneud â throseddau difrifol a throseddoldeb cysylltiedig yn ddiwyro, er mwyn diogelu'r rhai y camfanteisir arnynt a chadw ein strydoedd yn ddiogel.
“Gall digwyddiadau sy'n cynnwys cyllyll gael canlyniadau difrifol a dyna pam mae mynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll ac atal trais difrifol yn flaenoriaeth uchel i ni.”
Rhai enghreifftiau diweddar o waith rhagweithiol gan dimau Ymgyrch Sceptre:
Caerdydd:
Yn ddiweddar, atafaelodd tîm Ymgyrch Sceptre Caerdydd a'r Fro gilo o heroin, yr amcangyfrifir ei fod yn werth hyd at £56k, ar ôl iddo stopio a chwilio car yn Grangetown.
Arestiwyd dau ddyn yn y cerbyd a chwiliwyd eu cartref, a arweiniodd at gyhuddo un dyn o fod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi ac o fod â chanabis yn ei feddiant.
Roedd Tîm Ymgyrch Sceptre ar batrôl mewn car heddlu heb ei farcio ar ôl i bryderon gael eu codi ynghylch troseddau'n ymwneud â chyllyll a throseddau'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn yr ardal.
Abertawe:
Ym mis Medi, roedd swyddogion mewn dillad plaen o Ymgyrch Sceptre ar batrôl yn ardal Mount Pleasant yn Abertawe pan welsant ddau ddyn yr oeddent yn amau eu bod yn delio cyffuriau. O ganlyniad, gwnaethant ddechrau edrych ar ddeunydd CCTV er mwyn tracio eu symudiadau.
Daeth y swyddogion o hyd i'r ddau ddyn dan amheuaeth a'u harestio. Cafwyd bod gan y naill gyllell yn ei feddiant a bod gan y llall ffôn symudol o fath ‘burner’ gyda negeseuon testun yn hysbysebu ei wasanaethau cyffuriau.
Canfu chwiliadau pellach o'r cartref heroin yr amcangyfrifir ei fod yn werth £600 ar y stryd ym mhoced trowsus ac roedd y DNA ar y trowsus yn cyfateb i DNA un o'r dynion dan amheuaeth.
Dedfrydwyd yr unigolyn â'r ffôn i bedair blynedd ac un mis yn y carchar, a dedfrydwyd dyn arall a oedd â heroin yn ei feddiant i dair blynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Ategir gwaith timau Ymgyrch Sceptre gan Unedau Troseddau Cyfundrefnol a thimau Plismona yn y Gymdogaeth sy'n parhau i fod yn weladwy ac yn rhagweithiol yn y gymuned.
Er nad yw 99% o bobl ifanc 10-29 oed yn cario cyllell, mae Swyddogion SchoolBeat yn siarad â phobl ifanc ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r effaith ddinistriol y gall cario cyllell ei chael nid yn unig ar eu bywydau nhw ond ar fywydau ffrindiau, aelodau o'r teulu ac eraill yn y gymuned.
Gall teuluoedd a chymunedau chwarae eu rhan i helpu i fynd i'r afael â thrais difrifol drwy gymryd cyfrifoldeb am eu plant a'u hoedolion ifanc sydd ar ymylon troseddoldeb neu mewn perygl o gario cyllell.
Mae cynllun ildio arfau tramgwyddus ar waith ar hyn o bryd tan 20 Rhagfyr, sy'n rhoi cyfle i'r cyhoedd gyflwyno arfau a helpu i atal trais difrifol.
Gellir cyflwyno arfau mewn saith lleoliad, sef:
Os oes gennych bryderon ynghylch troseddau'n ymwneud â chyllyll, neu os ydych yn credu y gall rhywun fod yn cario cyllell, cysylltwch â Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 neu Heddlu De Cymru.
Ewch i: https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gwyliwch swyddogion Ymgyrch Sceptre ar waith: https://youtu.be/Zlk63FW9EO4