Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Chun Xu wedi cael ei garcharu am oes a bydd yn y carchar am o leiaf 30 mlynedd am lofruddio Wenjing Lin a cheisio llofruddio ei llystad, Yongquan Jiang.
Cafwyd y dyn 32 oed yn euog o lofruddiaeth ddydd Mawrth 9 Tachwedd ac ymddangosodd yn Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw (dydd Gwener 12 Tachwedd) i gael ei ddedfrydu.
Tagodd Wenjing Lin cyn ymosod ar Yongquan Jiang â dwy gyllell yn y Blue Sky Takeaway ar Stryd Baglan, Treorci ddydd Gwener, 5 Mawrth 2021.
Clywodd y llys ei fod yn ceisio dial am ddyled arian yr oedd arno i'r teulu.
Yn dilyn ei euogfarn, dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis, ei fod yn falch fod y treial wedi arwain at euogfarnu Chun Xu yn llwyddiannus. Aeth ymlaen i ddweud bod y dystiolaeth a gasglwyd yn dangos bod hon yn llofruddiaeth ragfwriadol a didrugaredd o ferch 16 oed ddiniwed, clyfar, talentog a phoblogaidd, ac yn ymosodiad difrifol ar ei llystad gydag ymgais amlwg i'w ladd.