Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth menyw yn Llanilltud Faerdref wedi arestio dyn ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Nid yw’r ddioddefwraig wedi’i hadnabod yn ffurfiol eto, ond mae swyddogion yn credu mai’r preswylydd lleol 65 oed, June Fox-Roberts, ydyw.
Gellir cadarnhau hefyd mai yng nghyfeiriad ei chartref yn St Anne’s Drive y cafodd y corff ei ddarganfod ddydd Sul. Aeth swyddogion i’r cyfeiriad ar ôl i aelod pryderus o’r teulu gysylltu â nhw.
Mae teulu June, sy’n cael ei gefnogi gan swyddogion wedi’u hyfforddi’n arbennig ar hyn o bryd, wedi talu’r deyrnged ganlynol iddi:
“Rydym mewn sioc lwyr am farwolaeth ein mam. Ni fydd ei llofruddiaeth fyth yn gwneud synnwyr i ni. Roedd hi’n fenyw gynnes, hael ac ar ben ei digon pan oedd ei theulu a’i ffrindiau o’i chwmpas.
“Roedd hi’n caru ei theulu’n fawr ac ni fydd pethau byth yr un peth i ni. Mae ein calonnau wedi’u torri.Gofynnwn i chi barchu ein preifatrwydd a gadael i ni alaru a dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd.”
Mae tâp ynysu’r heddlu o amgylch y tŷ a’r tir cyfagos o hyd. Mae mwy o waith patrolio’n mynd rhagddo ac mae swyddogion yn parhau i gynnal ymholiadau o ddrws i ddrws ac i fynd ar dywydd pob darn o wybodaeth gan y cyhoedd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George:
“Mae fy meddyliau gydag aelodau o deulu June yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn – mae gennym swyddogion wedi’u hyfforddi’n arbennig yn eu cefnogi.
“Hoffwn ddiolch i’r rheini sydd wedi ymateb i’n hapêl. Mae’r arestiad heddiw yn ddatblygiad sylweddol ond hoffwn bwysleisio mai ymchwiliad parhaus yw hwn ac rwy’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ac nad yw wedi ei chyflwyno i ni eto i wneud hynny, ni waeth pa mor ddibwys y gallai’r wybodaeth ymddangos.
“Mae’r llofruddiaeth hon wedi rhoi sioc i bawb yn y pentref a’r ardaloedd o’i amgylch, a hynny’n ddealladwy. Rydym wedi cynyddu nifer y swyddogion sydd i’w gweld yn y pentref ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r gymuned. Bydd ein presenoldeb yn parhau wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.”
Gellir cyflwyno gwybodaeth neu ffilm a allai gynorthwyo’r ymchwiliad drwy borth ar-lein: https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B41-PO1
Fel arall, gall pobl gysylltu â ni drwy un o’r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2100408848:
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw i Taclo'r Tacle drwy ffonio 0800 555 111.