Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, cynhaliwyd gwasanaeth coffa – wedi'i arwain gan Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael, a'i weinyddu gan gaplan yr heddlu Glynne James – ym mhencadlys yr heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Er gwaethaf yr heriau parhaus sy'n gysylltiedig â COVID-19, mae ein hymrwymiad i goffa'r diwrnod ac i gydnabod yr aberth a wnaed gan bawb a fu farw wrth wasanaethu yn y lluoedd, neu wrth wasanaethu ein cymunedau yn parhau.
“Eleni, gwahoddwyd aelodau o deulu agos y rhai rydym wedi'u colli yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i ymuno â ni, a gwahoddwyd cydweithwyr, ffrindiau ac aelodau estynedig y teuluoedd i gymryd rhan mewn dwy funud o ddistawrwydd.
“Roedd yn galonogol unwaith eto cael y cyfle i groesawu'r rhai sydd wedi colli anwyliaid i'n gwasanaeth blynyddol, ac i allu dangos ein diolch a myfyrio ar yr aberth a wnaed, a'r aberth sy'n parhau, gan gynifer.
“Fel y gwnaed yn ystod blynyddoedd blaenorol, gwnaethom hefyd dalu teyrnged i bawb o'r heddluoedd a'n rhagflaenodd a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfeloedd Byd. Gwnaethant wasanaethu yn y Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, ac yn y Llynges Fasnachol. Bu rhai ohonynt farw ar ddyletswydd fel swyddogion yr heddlu.”
Ymhlith y swyddogion hynny a fu farw, roedd Glyn David Rhys-Williams, a arweiniodd ei fataliwn i fuddugoliaeth drwy ddangos arweinyddiaeth a dewrder ysbrydoledig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wrth ymladd yn Tunisia.
Cafodd Glyn ei saethu a'i ladd gan saethwr cudd wrth iddo arwain ymosodiad terfynol ym mis Ebrill 1943.
Cafodd stori Glyn, sy'n un o blith enghreifftiau dirifedi o ddewrder, ei hadrodd yn ystod y gwasanaeth y bore yma.
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Mae ein gwasanaeth coffa yn cynnig cyfle i sicrhau na chaiff cyfraniadau ac aberthau cynifer byth eu hanghofio, yn enwedig y rheini a aberthodd eu bywyd. Fe'u cofiwn.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Ar y cyd â chymunedau yn Ne Cymru a thu hwnt, rydym wedi cymryd eiliad i feddwl yn dawel, a chofio'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf dros y rhai a adawyd ar eu hôl. Yn ein Gwasanaethau Coffa rydym yn esbonio pam rydym yno drwy'r geiriau ‘rhag i ni anghofio’ ac mae'n bwysig bod hyn yn cynnwys y dynion a'r menywod unigol a gollodd eu bywydau drwy erchylltra a thrychineb rhyfel.
“Pan ddaeth Prydain yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 ar ôl i'r Almaen oresgyn Gwlad Belg, ychydig a ragwelodd y byddai'n rhyfel na welwyd ei debyg o'r blaen. Bu miliynau yn ymladd ac yn marw.
“Gwasanaethodd rhai cannoedd o swyddogion yr heddlu a fu'n aelodau o'n heddluoedd rhagflaenol sef Morgannwg, Caerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful a Chastell-nedd yn y lluoedd arfog a bu farw 90 o swyddogion. Cafodd llawer mwy eu hanafu. Cafodd rhai eu cydnabod am eu dewrder.
“Ar 11 Tachwedd, rydym yn cofio pob un ohonynt wrth i ni nodi diwedd y rhyfel ar y diwrnod hwnnw yn 1918, ac rydym hefyd yn cofio pob un a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd a'r rhyfeloedd niferus ers hynny.
“Ar yr un pryd, rydym yn cofio'r rhai hynny o Heddlu De Cymru a fu farw wrth gyflawni eu dyletswyddau ac eleni ym Mhencadlys Heddlu De Cymru rydym yn cofio'n benodol y rhai sydd wedi marw yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, yng nghwmni perthnasau agos y cydweithwyr hynny.
“Mae'n gyfle i gofio amdanynt ond hefyd ddathlu eu bywydau a'u gwasanaeth i gymunedau De Cymru.”
Ychwanegodd Caplan yr Heddlu Glynne James, sy'n gyn-filwr y lluoedd arfog ac a fu'n swyddog yr heddlu am ddeng mlynedd ar hugain:
“Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau â'r traddodiad o anrhydeddu'r sawl a aberthodd eu bywydau mor ddewr ac yn dangos ein gwerthfawrogiad ohonynt, a myfyrio ar anhunanoldeb y sawl a wasanaethodd.”